Canllawiau Cyn Gwneud Cais

Croesawn y cyfle i roi cyngor cynllunio i chi cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio.

Ein nod yw:

  • Galluogi ac annog cynllun ansawdd uchel p'un ai yn dŷ newydd, yn estyniad, garej, newid defnydd neu ddatblygiad newydd arall
  • Rhoi cymorth wrth baratoi eich cais cynllunio
  • Gostwng ansicrwydd a gwella ansawdd y cais. Gall hyn ein helpu i benderfynu ar eich cais yn gyflymach gan y byddwch yn gwybod am broblemau posibl ac yn gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen. Os yw'ch cynnig yn annerbyniol, gallai hyn roi cyfle i chi addasu eich cynlluniau neu hyd yn oed arbed y gost i chi o baratoi cais ffurfiol os yw'n annerbyniol.

Mae cyngor ar yr hyn y bydd angen i chi wneud a'r hyn a wnawn ni yn Nodyn Cyngor Cynllunio 6 - Ymholiadau Rhagarweiniol.

Costau

Mae dadansoddiad cost llawn hefyd tan 31 Mawrth 2024 yn y Nodyn Cyngor Cynllunio.

Costau 1st ebrill 2024: PAN 6 Prelim Charging AS OF 1St APRIL 2024

Nid yw ymholiad cyn gwneud cais yn ofyniad cyfreithiol a gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio hebddo.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 355555
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk