Tîm tu ôl i ddrama newydd am Aneurin Bevan yn ymweld â’i wreiddiau

Ymwelodd y prif dîm o’r National Theatre yn Llundain â Chymru yr wythnos hon i ymchwilio’r ardal lle ganwyd Aneurin Bevan a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd y tîm yn cynnwys Rufus Norris, Cyfarwyddwr y National Theatre – Tim Price – awdur Nye, Vikki Mortimer, y Cyfarwyddwr Artistig a Michael Sheen fydd yn chwarae’r brif ran.

Aeth Alyson Tippings, Swyddog Rheoli Cyrchfan Cyngor Blaenau Gwent, â nhw o daith o amgylch Tredegar gan ymweld â lleoedd yr oedd Aneurin Bevan yn ymweld â nhw a mannau pwysig iddo. Dechreuodd y daith yn Nhŷ Bedwellte gyda thîm y Theatr Genedlaethol yn ymweld â Siambr y Cyngor lle eisteddai Aneurin Bevan pan gafodd ei ethol gyntaf i Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar. Fe wnaethant edrych ar y ffilm yn adrodd ei hanes a sut y trechodd ei atal dweud i ddod yn un o areithwyr mwyaf y Senedd.

Ar ôl edrych ar hen ffotograffau a gweithiau celf buont yng Nghanolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar i gael gwybodaeth am y sefydliad a ddefnyddiodd Aneurin Bevan fel sylfaen ar gyfer y GIG. Buont hefyd yn ei swyddfa etholaeth yn Sgwâr y Frenhines, safle glofa Tŷ Trist lle bu’n gweithio, ei fan geni yn Stryd Charles, y Cerrig Coffa sy’n nodi’r fan lle anerchodd ei etholwyr a’r byd ac yn olaf ei fan gorffwys olaf yn Nhrefil. Ar hyd y ffordd buont yn darllen dyfyniadau ganddo ef, ei hoff ddyfyniadau gan bobl eraill a’r hyn a ddywedodd pobl amdano.

Roedd pobl leol wrth eu bodd i glywed am yr ymweliad dirgel hwn ac yn edrych ymlaen at weld y ddrama yn y National Theatre yn Llundain y flwyddyn nesaf.