Croeso I’ch Map Lles Dros Blaenau Gwent

Mae cefnogi llesiant ein cymunedau yn brif flaenoriaeth. Yn ddiweddar, lansiodd Tîm Rhwydwaith Llesiant Integredig Blaenau Gwent fap newydd ar-lein sy’n cysylltu pobl Blaenau Gwent â phopeth a all helpu llesiant meddyliol a chorfforol yn eu hardal leol.  

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein cymunedau wedi wynebu nifer o heriau ac rydym eisiau cefnogi ein trigolion lleol i wella eu llesiant mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw ar garreg eu drws. Gan weithio gyda phartneriaid lleol, mae ein timau Rhwydwaith Llesiant Integredig ar draws Casnewydd, Torfaen a Blaenau Gwent wedi creu mapiau rhyngweithiol am ddim, gyda phopeth o glybiau a gweithgareddau i grwpiau a sefydliadau.

Gall cymunedau ddefnyddio’r map newydd i ddod o hyd i bethau sy’n eu helpu nhw a’u teulu i wella eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r mapiau’n galluogi cymunedau lleol i ganfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu ofyn am gyngor, y gallant wedyn ei ddefnyddio i ddechrau gwella eu llesiant. 

Holl fuddion gwych y mapiau newydd:

  • Yr holl ddigwyddiadau lleol mewn un lle, gyda channoedd o restrau eisoes ar flaenau eich bysedd, a’r casgliad yn parhau i dyfu
  • Maent yn helpu cymunedau i ymwneud â’r holl bethau gwych sy’n digwydd ar draws eu hardal leol
  • Yn ogystal â gweithgareddau a grwpiau, mae gwybodaeth hefyd ar gael ynglŷn â gwasanaethau cymorth lleol mewn meysydd fel iechyd meddwl, cymorth tai a chefnogaeth ariannol
  • Mae’r mapiau am ddim, yn hawdd i’w defnyddio ac ar gael mewn nifer o ieithoedd

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, ewch i gael golwg arnynt: