Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr

Lwfansau a Threuliau Aelodau

Mae'r dudalen yma'n dangos y lwfansau a'r treuliau a hawliwyd gan Gynghorwyr Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ac Aelodau cyfetholedig. Caiff y symiau y mae gan y Cynghorwyr hawl iddynt ei reoleiddio gan Banel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol Cymru.

Mae gan bob cynghorydd hawl i'r "lwfans sylfaenol" i adlewyrchu eu gwaith fel cynrychiolwyr lleol.

Mae'r Cyngor hefyd yn penderfynu bod gan rai swyddi er enghraifft yr Arweinydd, Aelodau'r Pwyllgor Gwaith, Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion  Pwyllgorau Craffu/ Pwyllgorau erail (megis Cynllunio a Thrwyddedu) gyfrifoldebau arbennig yn ychwanegol i rai cynghorwyr eraill. Mae'r swyddi hyn yn rhoi hawl i gynghorwyr hawlio "Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig". Telir lwfans i'r Maer a'r Dirprwy Faer hefyd ar gyfer eu dyletswyddau dinesig. Mae lwfans gofal hefyd ar gael i'r rhai gyda dibynyddion.

Mae cynghorwyr yn hawlio treuliau teithio ar gyfer eu costau pan maent yn teithio ymaith o gartref neu safleoedd Cyngor Blaenau Gwent ar fusnes y cyngor (er enghraifft os ydynt yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor).

Gellir hawlio treuliau eraill ar gyfer costau (er enghraifft) lluniaeth sydd ei angen fel canlyniad i'w busnes cyngor.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cyhoeddi’r holl dreuliau a hawlir gan gynghorwyr. Mae Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau'r Cyngor yn nodi'r lwfansau a'r treuliau y gellir eu hawlio. Mae'r Cynllun yn cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a'r argymhellion ar lwfansau mewn adroddiadau a gyhoeddwyd gan Banel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol Cymru.

Caiff nifer o Gynghorwyr Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent hefyd gydnabyddiaeth ariannol am eu gwaith yn cynrychioli'r Cyngor ar sefydliadau cyhoeddus eraill.

Caiff cyflogau a lwfansau Cynghorwyr eu penderfynu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Gwybodaeth blynyddoedd blaenorol