Nod Safonau’r Gymraeg yw:
- Gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau penodol yn y Gymraeg;
- Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;
- Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg; a
- Sicrhau bod cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff yn yr un sectorau.
Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg
Dan Safonau 158, 164 a 170, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddyletswydd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn Gymraeg ar yr Iaith Gymraeg. (gweler linc isod’).
Mae Adroddiad Blynyddol Iaith Blaenau Gwent yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth hyrwyddo a chefnogi'r iaith Gymraeg ar draws y fwrdeistref.
Mae'n amlinellu mentrau allweddol, ymdrechion ymgysylltu cymunedol, a gweithgareddau addysgol sydd wedi helpu i gynyddu gwelededd a defnydd bob dydd o'r iaith. Mae'r adroddiad hefyd yn myfyrio ar lwyddiannau, yn nodi meysydd ar gyfer twf, ac yn cadarnhau ymrwymiad y fwrdeistref i ddyfodol dwyieithog.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Os ydych chi neu'ch sefydliad yn gwneud rhywbeth i gefnogi neu hyrwyddo'r iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent, rhowch wybod i ni. Gallai eich gwaith gael ei gynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol nesaf.
Anfonwch fanylion i: cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk
Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg
Dan Safon 145, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg bum mlynedd (gweler linc isod) sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang ym Mlaenau Gwent.
Dogfennau Cysylltiedig
- Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2025-26
- Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022 - 2027
- Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Medi 2015
- Polisi ar Ddyfarnu Grantiau yn Cyngor Bwrdeistref Sirol
Am ymholiadau ynghylch yr iaith Gymraeg, neu i rannu unrhyw wybodaeth y credwch a allai fod o berthnasedd neu fudd i ni, cysylltwch â: cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk