Dechreuwyr Newydd

Sefydlu

Bydd yr holl gyflogeion newydd yn derbyn Gwybodaeth Sefydlu Corfforaethol ac Adrannol.  Bydd eu fformat yn amrywio yn dibynnu ar natur y swydd y cawsoch eich penodi iddi.

E-ddysgu

Mae gan y Cyngor lwyfan e-ddysgu sydd â llawer o adnoddau hyfforddiant a datblygu ar gyfer staff. Mae ar gael o unrhyw ddyfais gyda chysylltiad ‘r rhyngrwyd ac yn addasu’n awtomatig i liniaduron, dyfeisiau llechen a ffonau clyfar felly gellir eu cael ar y ddyfais a ddewiswch chi ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Cyfnod Prawf

Bydd cyfnod prawf ar gyfer pawb sy’n ymuno o’r newydd â gwasanaeth yr Awdurdod. Ar ddiwedd hynny, yn ddibynnol ar adroddiad boddhaol gan y Rheolwr, byddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’ch penodiad. Mewn rhai amgylchiadau, gall y cyfnod gael ei ymestyn lle nad yw unigolion wedi dangos eu haddasrwydd ar gyfer y swydd.

Sianeli cyfathrebu staff

Mae nifer o sianeli cyfathrebu yn bodoli i ymgysylltu gyda staff:

  • Neges y Prif Weithredwyr (e-bost bob 3 wythnos)
  • Bwletin Dydd Mercher Llesiant (e-bost wythnosol)
  • Negeseuon e-bost pob staff (dyddiol)
  • Cylchlythyr staff (e-bost chwarterol)
  • Briff Rheolwyr (e-bost chwarterol)
  • Mewnrwyd
  • Facebook Staff (dyddiol)
  • Cyfarfodydd tîm a sesiynau gwybodaeth (misol wyneb yn wyneb a rhithiol)
  • Sioeau teithio staff (ad hoc)

Dogfennau Cysylltiedig