Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i gyfle cyfartal ym mhob agwedd o gyflogaeth a bydd yn cymryd camau cadarnhaol i ostwng unrhyw anfantais a hybu cyfle ar gyfer pob unigolyn a grŵp.

Anelwn sicrhau na chaiff unrhyw un sy’n ymwneud gyda’r cyngor yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail:

  • Oedran
  • Crefydd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Lliw
  • Tarddiad ethnig
  • Dinasyddiaeth
  • Statws priodasol
  • Iaith
  • Anabledd
  • Rhywedd
  • Niwrowahaniaeth

I gael mwy o wybodaeth am ein hymroddiad i gyfle cyfartal yn ei holl wasanaethau, ewch i’n adran cydraddoldeb.