Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Ceisiadau yn Gymraeg

Os dymunwch gyflwyno eich cais yn Gymraeg, gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gymraeg Cais am Swydd (PDF) a’i dychwelyd i recruit@blaenau-ent.gov.uk cyn y dyddiad cau.  Gofynnir i chi gadw copi cyn cwblhau’r cais. Ni chaiff unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.  Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn eich dewis iaith, dim ond i chi rhoi gwybod i ni pa un sydd well gennych.  Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.

Cynghorion defnyddiol ar sut i wneud cais

Dylech lenwi pob rhan o’r ffurflen gais gan sicrhau y llenwyd pob maes gorfodol. Ni chaiff curriculum vitae (CV) ei dderbyn fel gwybodaeth ategol neu yn lle llenwi’r ffurflen gais.

Y ffurflen gais yw’r unig wybodaeth sydd gennym ar ymgeisydd wrth benderfynu pwy i’w dewis ar gyfer cyfweliad. Mae’n bwysig eich bod yn llenwi pob rhan o’r ffurflen mor llawn ac mor gryno ag y gallwch, yn seiliedig ar yr wybodaeth y gwnaethom ei rhoi i chi am y swydd. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn darllen yr holl wybodaeth a amgaeir gyda’r ffurflen gais a meddwl pam eich bod eisiau’r swydd hon a pha brofiad a sgiliau sydd gennych i’w cynnig cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen.

Mae’r disgrifiad swydd a manyleb person yn rhestru’r prif ddyletswyddau a’r cymwysterau perthnasol, profiad a chymwyseddau personol sydd eu hangen i wneud y swydd. Mae’n hollbwysig eich bod yn dangos yn eich ffurflen gais sut y gallwch fodloni pob un o’r meini prawf hanfodol ac, os yn berthnasol, y meini prawf dymunol a nodir yn y fanyleb person, gan roi sylw neilltuol i’r rhai a gaiff eu hasesu o’r ffurflen gais.

Yn eich cais, dylech drin pob pwynt o’r fanyleb person yn rhoi enghreifftiau o sut yr ydych wedi gweithredu eich sgiliau, profiad a chymwyseddau personol yn eich hanes cyflogaeth. Er enghraifft, os yw’r fanyleb person yn gofyn am ‘brofiad o weithio gyda’r henoed’, yna nid yw ysgrifennu ‘Mae gennyf brofiad o weithio gyda’r henoed’ yn ddigonol. Bydd angen i chi roi esboniad mwy manwl am eich profiad penodol a’r hyn oedd yn ei olygu, er enghraifft ‘Rwyf wedi gweithio yn wirfoddol fel Cynorthwyydd Gofal am ddwy flynedd oedd yn cynnwys helpu gyda gofal personol, yn ogystal ag annog y preswylwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol.’

Bydd gwahoddiad i gyfweliad yn dibynnu ar os yw’r wybodaeth yr ydych wedi ei ysgrifennu yn eich ffurflen gais yn dangos eich bod yn ateb gofynion y fanyleb person. Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n dangos eu bod yn ateb yr holl feini prawf gofynnol gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer.

Os nad ydych erioed wedi bod mewn cyflogaeth daledig neu heb fod ers peth amser, gofynnir i chi roi gwybodaeth i ni am y profiad a gawsoch mewn ffyrdd eraill. Gallai hyn gynnwys profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, diddordebau hamdden neu drwy brofiad domestig a theulu.

Mae’r ffurflen gais yn cynnwys Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal sy’n galluogi’r Awdurdod i fonitro effeithlonrwydd ei bolisïau a hefyd yn cydymffurfio gyda gofynion ein Siarter Recriwtio a Chod Ymarfer wrth warantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr anabl sy’n ateb y meini prawf hanfodol yma.

Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn datgan ar eich ffurflen gais os ydych yn perthyn i unrhyw Gynghorydd neu Uwch Swyddog (Gradd 7 neu uwch) yn yr Awdurdod hwn. Byddai methiant i wneud hynny yn eich gwneud yn anghymwys i’ch penodi.

Gwiriadau Cyn-cyflogaeth

Caiff pob penodiad i’r Awdurdod eu gwneud yn amodol ar dderbyn y gwiriadau cyn-cyflogaeth dilynol:

  • Asesiad Iechyd Gwaith: Polisi’r Awdurdod yw fod pawb sy’n ymuno â gwasanaeth y Cyngor yn cael cliriad meddygol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd. Gofynnir i chi lenwi holiadur ac, mewn rhai achosion, gall fod angen archwiliad meddygol gan Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol y Cyngor.
  • Tystlythyrau Cyflogaeth: Mae apwyntiadau yn amodol ar ddau dystlythyr boddhaol, a dylai un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol. Yn achos swyddi sydd angen datgelu troseddau cofnodion, polisi’r Awdurdod yw gwirio unrhyw fylchau mewn hanes cyflogaeth, a hefyd i weld tystlythyrau am y deg mlynedd ddiwethaf.
  • Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Mae rhai swyddi o fewn yr Awdurdod wedi eu heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 oherwydd natur y gwaith sy’n gysylltiedig, a allai gynnwys gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed. Bydd angen i ymgeiswyr am y swyddi hyn gael gwiriad DBS Safonol/Estynedig ar record droseddol adeg penodi a bob tair blynedd yn unol â pholisi’r cyngor. Yn ychwanegol at hyn, caiff gwiriadau hefyd eu gwneud ar wybodaeth a ddelir gan yr Awdurdod Lleol yn cynnwys unrhyw gofnodion gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y dynodir unrhyw risgiau posibl i bobl agored i niwed.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am swyddi sydd angen datgeliad record droseddol ddatgelu ar eu ffurflen gais bob euogfarn, rhybudd, cerydd a rhybuddion terfynol, yn cynnwys unrhyw rai y gellir eu hystyried fel bod wedi eu ‘treulio’ dan ddarpariaeth y Ddeddf. Caiff manylion y gofyniad i ymgymryd â gwiriad DBS eu hamlinellu yn yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd. Cyn llenwi’r ffurflen hon gofynnir i chi sicrhau eich bod yn derbyn y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a gwirio’r gofyniad i gwblhau datgeliad safonol neu estynedig ar y disgrifiad swydd.

Dim ond pan fydd euogfarn yn berthnasol y caiff record droseddol ei hystyried ar gyfer dibenion recriwtio. Os nad yw natur y gwaith yn gofyn am hynny, ni ofynnir i chi ddatgelu euogfarnau sydd wedi treulio dan delerau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ni fydd cael euogfarn heb ei threulio yn eich gwahardd rhag cyflogaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau a chefndir y drosedd.

  • Tystiolaeth o Gymwysterau: Pan gânt eu penodi gofynnir i bawb sy’n ymuno â gwasanaeth yr Awdurdod roi tystiolaeth o gymwysterau, fel yr amlinellir yn eu cais gwreiddiol.
  • Tystiolaeth Dull Adnabod: Pan gânt eu penodi, bydd gofyn hefyd i bawb a benodir i roi tystiolaeth dull adnabod, er enghraifft Tystysgrif Geni, Pasbort neu Rif Yswiriant Gwladol ynghyd â thystiolaeth o’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig lle’n berthnasol.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Llinell recriwtio 24 awr ar (01495) 311556

E-bost: HRpayroll@blaenau-gwent.gov.uk