Nod Safonau Masnach yw sicrhau amgylchedd teg a diogel i bawb sy’n prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau ym Mlaenau Gwent.
Cyflawnir hyn drwy ystod o weithgareddau ymyrraeth, cyngor a gorfodaeth gyda busnesau a defnyddwyr.
Rydym yn gweithio’n glos gydag asiantaethau partner er mwyn casglu gwybodaeth a gorfodi’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â meysydd megis:
- Pwysau a Mesurau
- Labelu a Chyfansoddiad Bwyd
- Nwyddau Ffug
- Diogelwch Cynnyrch
- Prisio
- Masnachu Twyllodrus a Throseddau ar Stepen y Drws
- Credyd Defnyddwyr
- Nwyddau a Gamddisgrifiwyd
- Gwerthiannau â Chyfyngiad Oed
Gellir cael mwy o wybodaeth ar waith Safonau Masnach ar:
Gall busnesau gael cyngor ar y wefan gymar Busnes:
https://www.businesscompanion.info/
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i fusnesau ar labelu bwyd (gan gynnwys alergenau), rhybuddion bwyd a hyfforddiant labelu ac alergen ar-lein yn rhad ac am ddim.
Mae’r Asiantaeth hefyd yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i ffermwyr a busnesau porphin gan gynnwys sut i wneud cais am gymeradwyaeth neu gofrestriad ar gyfer eich busnes porthi.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar y rhybuddion bwyd a’r galwadau cynnyrch yn ôl diweddaraf.
Ymunwch â’n tudalen Facebook i dderbyn y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Safonau Masnach
Rhif Ffôn:
01495 369542
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk