Cyngor a Gwybodaeth i Ddefnyddwyr

Darperir cyngor i ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth sy’n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, ar faterion defnyddwyr.  Mae’r wefan yn darparu llawer o wybodaeth ynghylch  eich hawliau a sut i weithredu. 

Gallwch gael cyngor ar:-

  • nwyddau sy’n ddiffygiol, heb ateb y diben, neu wedi eu disgrifio’n anghywir
  • gwasanaethau na chawsant eu cyflawni â gofal rhesymol ac o fewn amser rhesymol neu am bris derbyniol
  • beth i’w wneud os ydych yn credu i chi gael eich twyllo 

Os nad yw’r wefan yn rhoi ateb i’ch problem, gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0808 223 1144 neu drwy Cyngor ar Bopeth Cyngor Defnyddwyr

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar Orchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 ar wefan Cyngor ar Bopeth 

Mae llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol drwy ddarparu cyngor lefel cyntaf a gwybodaeth ar faterion defnyddwyr. Hysbysir Safonau Masnach o gwynion oddi wrth ddefnyddwyr a masnachwyr ym Mlaenau Gwent a byddant yn cysylltu â chi os credant fod ymchwiliad neu weithredu pellach yn angenrheidiol. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar y rhybuddion bwyd a’r galwadau cynnyrch  yn ôl diweddaraf. 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Safonau Masnach

Rhif Ffôn: 01495 357813

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk