Diwygiadau Gorchymyn Traffig, Brynmawr, Abertyleri

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Deddf Rheoleiddio Ffyrdd a Thraffig 1984

Gorchymyn (Gwahardd a Chyfyngu Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Gorfodaeth Parcio Sifil a Chydgyfuno 2019 (Diwygiad Rhif 10) Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

 

HYSBYSIR DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig yn unol â Rheoliadau Gorchymyn Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Lloegr a Chymru) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel ‘y Ddeddf’) fel y’i diwygiwyd, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (Deddf ‘2004’) a phob pŵer galluogi arall ac ar ôl ymgynghori gyda Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y Gorchymyn uchod ac i ddiwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd dilynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.

  • Mae’r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 10 fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgyfuno 2019 (Gwahardd a Chyfyngu Aros a Llwytho a Mannau Parcio Ar y Stryd) 2019 (‘y Gorchymyn Cydgyfuno’). Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’r Cyngor yn ystyried y byddai’r Gorchymyn i ddileu’r llinellau melyn dwbl lle nad yw’r angen yn bodoli mwyach, yn rhoi lleoedd parcio ychwanegol heb gyfyngiad i breswylwyr yn yr ardal.
  • Effeithiau’r Gorchymyn fyddai dileu Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar y darn o ffordd a nodir yn atodlen map S13A a 257A.

Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y drafft Orchymyn sydd, ynghyd â chynllun yn dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bydd felly tan y dyddiad gorffen o 21 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Os dymunwch wrthwynebu’r Gorchymyn a gynigir dylech anfon y seiliau dros eich gwrthwynebiad mewn ysgrifen i’r sawl a lofnododd isod erbyn 7 Mawrth 2024.

Bydd angen i wrthwynebiadau fod drwy e-bost neu drwy ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fel yr amlinellir isod.

E-bost - BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk neu drwy ysgrifennu at – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri nP13 1DB.

DYDDIEDIG: 15 Chwefror 2024

CLIVE ROGERS

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

Dogfennau Cysylltiedig