Bydd adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymateb i ystod o gwynion ynghylch llygredd oddi wrth aelodau’r cyhoedd. Rydym yn ogystal yn rheoleiddio nifer o weithgareddau sy’n cynhyrchu gwahanol fathau o lygredd. Mae’r materion llygredd rydym ni’n ymchwilio iddynt yn cynnwys:
Llygredd Aer
- Coelcerthi
- Arogl a niwsans tebyg
- Rheoleiddio rhai prosesau diwydiannol
Tir Halogedig
- Gorfodi’r drefn tir halogedig
- Rheoliadau difrod amgylcheddol
- Cynllunio
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
- Chwiliadau gwybodaeth amgylcheddol
Llygredd Sŵn
- Cŵn yn cyfarth ac anifeiliaid eraill
- Sŵn o safle adeiladu
- Sŵn domestig
- Larymau tresbaswyr
- a chyfarpar yn y strydoedd
Materion eraill yn Ymwneud â Llygredd
- Hawlenni Amgylcheddol
- Gadael gwastraff yn anghyfreithlon (gwib arllwys)
- Llygredd golau
- Cyflenwadau Dŵr Preifat
- Digwyddiadau llygredd difrifol
Nid yw’r uchod yn rhestr faith o’r materion rydym yn delio â nhw. Petai gennych reswm i gwyno dros ddigwyddiad o lygredd neu pe hoffech gael cyngor mewn perthynas â llygredd, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, drwy gyfrwng y manylion a amlinellir isod.
Gwybodaeth Gyswllt
Er mwyn hysbysu digwyddiad neu os am gyngor ar lygredd aer ffoniwch, os gwelwch yn dda, 01495 369542.