Achosion Eraill o Niwsans Statudol

‘Niwsans statudol’ yw rhywbeth sydd naill ai’n andwyol i iechyd, er enghraifft, yn gallu achosi clefyd, neu niwsans mewn cyfraith gyffredin. Mae’n rhywbeth sy’n effeithio ar ddefnydd a mwynhad rhywun o’i gartref/eiddo. Mae’n rhaid iddo ddigwydd yn rheolaidd a pharhau am gyhyd nes ei fod yn afresymol.

Materion gaiff eu cwmpasu gan gyfraith niwsans statudol:

Mae nifer o fathau o broblemau a all achosi ‘niwsans statudol’, fel y’u diffinnir yn Adran 79 o Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990.

  • Sŵn a dirgrynu
  • Llwch
  • Mwg
  • Ager
  • Arogl o safleoedd masnachol yn unig
  • Pryfed o safleoedd masnachol yn unig
  • Golau gwneud
  • Crynoadau a chramennau

Gwneud cwyn

Os nad ydych yn gallu datrys y broblem eich hun, dywedwch wrthym amdani ac fe ymchwiliwn i mewn iddi. Er mwyn i ni  ymchwilio i gwynion, bydd angen i chi ddarparu manylion yn eich cylch chi’ch hun a’r eiddo’n achosi’r broblem honedig.

Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch niwsans statudol ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556.

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk