Coelcerthi Gardd

Nid oes unrhyw gyfraith yn gwahardd coelcerthi, er ei bod yn drosedd os yw arogl mwg yn achosi niwsans.

Gall mwg o goelcerthi gardd effeithio’n ddifrifol ar breswylwyr eraill. Gall hefyd gyfrannu at lefelau llygredd aer lleol ac mewn rhai  lleoedd, ei gwneud yn anodd gweld ar y ffordd.

Cwyno am goelcerth cymydog

Mae un goelcerth yn annhebyg o fod yn niwsans er y gall wneud un neu fwy o gymdogion yn ddig. I fod yn niwsans, mae’n rhaid fod tystiolaeth am amlder y coelcerthi, pa mor hir y maent yn parhau, yr ardal a sut mae’r goelcerth yn effeithio ar fwynhad yr achwynydd o’u tir.

Siaradwch gyda’ch cymdogion yn bwyllog os ydynt yn achosi niwsans. Gallwch ein hysbysu ni os nad yw hynny yn gweithio.

Canllawiau ar goelcerthi

Mae’n well peidio llosgi coelcerthi os yn bosibl. Gallwch gael gwared â gwastraff cartrefi neu erddi drwy ddefnyddio’r Casgliad Gwastraff Gwyrdd,  ymweld â Chanolfan Ailgylchu neu ei ailgylchu gartref. Os nad oes unrhyw ddewis heblaw cael coelcerth, dylech ei chynnau pan fo amodau’r tywydd yn addas.

Os mai coelcerth yw’r dewis gorau ar gyfer cael gwared â gwastraff gardd, dilynwch y canllawiau hyn ac mae’n debyg na fyddwch yn gwneud eich cymdogion yn ddig nac achosi niwsans difrifol:

  • Rhybuddiwch eich cymdogion – maent yn llawer llai tebygol o gwyno
  • Dim ond llosgi deunydd sych
  • Peidiwch byth â llosgi sbwriel cartref, teiars rwber nac unrhyw beth sy’n cynnwys plastig, ewyn na phaent
  • Peidiwch byth â defnyddio hen olew injan, sbirit methyl na phetrol i gynnau’r tân na’i annog
  • Dylech osgoi cynnau tân mewn amodau tywydd anaddas – mae mwg yn aros yn yr aer ar ddyddiau llaith a llonydd a gyda’r nos. Os yw’n wyntog, gall mwg gael ei chwytho i erddi cymdogion ac ar draws ffyrdd
  • Dylech osgoi llosgi pan fo llygredd aer yn eich ardal yn uchel neu’n uchel iawn.
  • Peidiwch â chaniatáu i’r mwg symud ar draws ffordd a dod yn berygl i draffig. Gallech gael eich dirwyo am hyn.

Gwneud cwyn

Os na fedrwch ddatrys y mater eich hun, dywedwch wrthym amdano a byddwn yn edrych i mewn iddo ar eich rhan. Er mwyn i ni ymchwilio cwynion, bydd angen i chi roi manylion amdanoch eich hun a phwy sy’n achosi’r broblem honedig.

Gwybodaeth Cyswllt

Os hoffech gwyno wrthym am goelcerthi gardd, ffoniwch C2BG ar (01495) 311556.
Dylech gofio na allwn gymryd cwynion dienw am niwsans statudol.

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk