‘Niwsans statudol’ yw rhywbeth sydd naill ai’n andwyol i iechyd, er enghraifft, yn gallu achosi clefyd, neu niwsans mewn cyfraith gyffredin. Mae’n rhywbeth sy’n effeithio ar ddefnydd a mwynhad rhywun o’i gartref/eiddo. Mae’n rhaid iddo ddigwydd yn rheolaidd a pharhau am gyhyd nes ei fod yn afresymol.
Materion gaiff eu cwmpasu gan gyfraith niwsans statudol:
Mae nifer o fathau o broblemau a all achosi ‘niwsans statudol’, fel y’u diffinnir yn Adran 79 o Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990.
- Sŵn a dirgrynu
- Llwch
- Mwg
- Ager
- Arogl o safleoedd masnachol yn unig
- Pryfed o safleoedd masnachol yn unig
- Golau gwneud
- Crynoadau a chramennau
Gwneud cwyn
Os nad ydych yn gallu datrys y broblem eich hun, dywedwch wrthym amdani ac fe ymchwiliwn i mewn iddi. Er mwyn i ni ymchwilio i gwynion, bydd angen i chi ddarparu manylion yn eich cylch chi’ch hun a’r eiddo’n achosi’r broblem honedig.
Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch niwsans statudol ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556.