Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
Mae'n ddyletswydd ar bawb i fod yn effro i bryderon am gam-drin ac esgeuluso plant a phobl ifanc a gwybod at bwy y dylent roi gwybod am eu pryderon.
Os ydych yn poeni bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, rhaid i chi roi gwybod am eich pryderon i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) lleol isod:
Blaenau Gwent
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeam@blaenau-gwent.gov.uk
Ar ôl 5pm ac ar benwythnosau a gwyliau banc, cysylltwch â Thîm Dyletswydd Brys De-ddwyrain Cymru ar 0800 328 4432.
Os ydych chi'n meddwl bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol yna cysylltwch â'r Heddlu ar 999.