Cwrt Mytton

Cyfleusterau

  • Mae Cwrt Mytton yn Ganolfan Gwasanaethau Cymdeithasol Cartref Preswyl EMI sy’n darparu ar gyfer pobl hŷn dementia.
  • Dyluniwyd yr adeilad i wneud bywyd yn ddymunol ac yn gyfleus i breswylwyr a’u hymwelwyr.  Mae’r ystafelloedd ar 2 lawr ac fe’u gwasanaethir gan lifft.
  • Cartref yn y oddi ar Stryd Alma, yn yr agos i ganol y dref.
  • Mae 35 o ystafelloedd.  Mae’r rhain yn cynnwys ystafelloedd sengl gyda chyfleusterau en-suite neu unedau ymolchi, ac mae cyfleusterau toiledau gerllaw.
  • Mae gan bob swît o ystafelloedd ei ystafell ymolchi eu hunain, a gafodd eu haddasu i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion corfforol, gan roi diogelwch, preifatrwydd a chysur.  Mae hefyd doiledau ychwanegol ym mhob ardal, ystafelloedd eistedd a chyfleusterau cegin lle gallwch wneud eich snaciau a’ch diodydd poeth. 
  • Lleolir yr ystafelloedd eistedd cymunedol, yr ystafell fwyta, y gegin, yr ystafell trin gwallt a’r golchdy yn ardal ganolog y Cartref.
  • Gosodwyd system alw/larymau ym mhob ystafell.
  • Mae lolfa ymwelwyr ar gael gyda chyfleusterau gwneud te/coffi.

Staff

  • Mae yma dîm o swyddogion (gan gynnwys swyddog clerigol), cynorthwywyr gofal, cynorthwywyr domestig, golchdy a chogyddion.
  • Mae’r staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer y tasgau maent yn eu cyflawni a chânt gyfleoedd pellach i dderbyn hyfforddiant i ddatblygu’u sgiliau.
  • Caiff y staff eu harolygu’n rheolaidd ar sail un i un.
  • Mae grŵp mawr o staff ymrwymedig/gyda 4 uwch swyddog.  Yn ystod y dydd mae aelod staff ar ddyletswydd ym mhob ardal o’r cartref gyda 4 aelod o’r staff ar ddyletswydd ar gyfer y Cartref drwy gydol y nos.

Gwasanaethau

  • Gofal hirdymor: 35 o lefydd ar gael.
  • Gofal tymor byr: 2 le ar gael.
  • Mae’r staff yn cynnig cymorth gyda phob gofal personol, rhoi bath, ymolchi, eillio a gwisgo.
  • Darperir gwasanaeth golchdy a bydd y staff hefyd yn gwneud unrhyw wnïo neu gyweirio.
  • Gofal Meddygol
  • Gallwch barhau i ddefnyddio gwasanaethau’ch meddyg (Meddyg Teulu) os yw yn gallu darparu gwasanaeth ar eich cyfer.  (Gallech fod wedi symud allan o ardal eich meddyg).
  • Gall nyrsys sy’n gweithio yn y gymuned a meddygon ymgynghorol arbenigol ymweld â’r cartref, os cwyd yr angen.

Addoliad crefyddol

Mae mewnbwn oddi wrth Gyngor yr Eglwysi sy’n darparu rota i sicrhau y cynigir i Gwm Mytton a’i breswylwyr y dewis o addoli o fewn eu henwad Cristnogol dewisedig.  Telir ymweliadau rheolaidd gan aelodau o’r Eglwys Babyddol a’r Eglwys yng Nghymru i gynnig Cymundeb.  Petai angen, cysylltir gydag arweinwyr credoau eraill i sicrhau y darperir ar gyfer defodau crefyddol unigol priodol eraill.

Prydau a Gwasanaethau Eraill

  • Mae’r rhain yn hyblyg gyda dewis o fwydlen a chaiff dietau a dewisiadau arbennig eu diwallu.  Gellir gweini prydau yn yr ystafell fwyta neu yn eich ystafell wely os mai dyna fydd y flaenoriaeth.
  • Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys ffôn cyhoeddus ac ymweliad dwywaith yr wythnos gan berson trin gwallt sy’n codi pris rhesymol iawn.
  • Gall staff gynorthwyo gydag ymweliadau ag ysbytai, ciropodyddion, deintyddion ayb, os bydd angen.
  • Rhedir y cartref yn ddemocrataidd fel bod pawb yn cyfrannu ac yn rhannu unrhyw benderfyniad a wneir.

Costau

Fe’u gosodir yn unol â fformiwla a gytunwyd yn genedlaethol.

Cysylltiadau Cymunedol

Mae cysylltiadau cymunedol Cwrt Mytton drwy’i weithgareddau cymdeithasol.  Nod Cwrt Mytton yw bod gan breswylwyr yr hawl i ddisgwyl a phrofi safon uchel o ofal personol ac emosiynol.  Darparwn yr help a chefnogaeth y maent ei angen i fyw’r math o fywyd sy’n gweddu iddynt ac yn eu plesio a gofal arbenigol ar gyfer y rhai gyda dementia.

Nod

Ein nod yw darparu EMI gofal preswyl ansawdd uchel 24 awr ar gyfer pobl hŷn a phobl gyda dementia tra’n cefnogi a chynnal eu hannibyniaeth a’u dewis.

Gweithgareddau

Dewisir yr holl weithgareddau yn y Cartref ar y cyd gan breswylwyr a staff.  Cânt eu trefnu ar gyfer grwpiau neu ar gyfer unigolion ac maent yn cynnwys:

  • Cyfarfodydd cymdeithasol.
  • Cwis wythnosol.
  • Cyngherddau.
  • Corau.
  • Dominos, cardiau a gemau bwrdd.
  • Dartiau, bingo a chrefftau.
  • Barbeciws.
  • Partïon Nadolig a phen-blwydd.
  • Boreau coffi ar gyfer perthnasau a ffrindiau.
  • Nosweithiau fideo.
  • Teithiau i ganolfannau siopa, sioeau, cyngherddau, bwytai a thafarndai.
  • Ymweliadau â llyfrgell symudol, cyfnewid llyfrau a ffilmiau fideo ar gael.

Ffynonellau Cymorth

Pe byddech yn dymuno ymweld â Chwrt Mytton i dderbyn mwy o wybodaeth a fyddech gystal â chysylltu â:

Chwrt Mytton
Stryd Alma
Abertyleri
NP13 1QA

Ffôn: (01495) 217736

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth

Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Ffôn: 0300 062 8888

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285