Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus

Gallwch ofyn am a thalu am Wasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus drwy ffonio 01495 311556, neu ar-lein drwy borth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau.

Gellir talu drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd yn ystod y galwad, neu ar-lein drwy borth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau Cyngor. Unwaith yr awdurdodwyd taliad, byddwch yn cael derbynneb yn cadarnhau dyddiad eich casgliad.

Bydd mannau casglu ar gyfer eitemau gwastraff swmpus yn eich man casglu ailgylchu arferol. NODWCH OS GWELWCH YN DDA: Ni chaiff unrhyw eitemau na chaiff ei yn eich man ar hyn ailgylchu casglu eu casglu, ac ni roddir unrhyw ad-daliad. NID ydym yn cynnig Cymorth Casglu ar gyfer Gwastraff Swmpus. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer aelwydydd preswyl yn unig.

Yn lle hynny, gallech fynd â’r eitemau nad ydych eu heisiau o’ch cartref i’ch Canolfan Ailgylchu agosaf. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/visit-a-recycling-centre/

Gallwch hefyd gyfrannu rhai eitemau sydd mewn cyflwr da ac y gellir eu hailddefnyddio i Siop Ailddefnyddio The Den yng Nghanolfan Ailgylchu Roseheyworth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/the-den-reuse-shop-now-open/

Bydd Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus yn casglu eitemau sy’n rhy fawr i’ch bin yn cynnwys: oergelloedd, oergelloedd-rhewgelloedd, setiau teledu, matres neu gadair am y gost ddilynol:

1 eitem - £6.70
2 eitem - £13.40
3 eitem - £20.10
4 eitem - £26.80
5 eitem - £33.50

Eithriadau:

Oergell/Rhewgell math Americanaidd £24.00
Rhôl Carped £19.02
6 x 4 Sied £20.00

Caiff prisiau eitemau llawn a chyfanswm eu rhoi fel rhan o’r broses archebu.

Ni chaiff yr eitemau dilynol eu casglu:

Deunydd adeiladu, yn cynnwys: rwbel adeiladu, pridd, tywod, sment, pren rhydd neu baent.

Ni fedrir newid eich cais unwaith y cafodd ei gyflwyno.

Dylid nodi nad ydym yn casglu o unrhyw safleoedd Masnachol neu Fasnach yn cynnwys Ysgolion.

Telerau ac Amodau:

  • Rhaid i eitemau gael eu gadael yn ddiogel ym “Man Casglu Ailgylchu” Preswylwyr, cyn 7am ar ddiwrnod y casgliad.
  • Dim ond yr eitemau a gafodd eu rhestru pan wnaed yr archeb y byddwn yn eu casglu. Caiff unrhyw eitemau ychwanegol a roddir allan eu gadael yn y man casglu.
  • Os na fedrwn gasglu eich eitem(au) am unrhyw reswm (tebyg i dywydd garw, cerbyd wedi torri), byddwn yn ceisio cysylltu â chi. Gwneir pob ymdrech i gasglu’r diwrnod gwaith nesaf.
  • Nid oes unrhyw ostyngiadau cost ar gael.

Ad-daliadau a Chasgliadau

  • Dim ond os y canslir cyn 3pm y diwrnod cyn y diwrnod casglu a drefnwyd y rhoddir ad-daliad, caiff preswylwyr ad-daliad llawn yn yr achosion hynny.
  • Ni roddir ad-daliad os canslir ar ôl 3pm y diwrnod cyn y dyddiad casglu a drefnwyd.
  • Ni roddir unrhyw ad-daliad os, am unrhyw reswm, bod y criw casglu yn mynd at yr eiddo a chanfod:
    • Na chafodd yr eitemau eu rhoi yn y man casglu ailgylchu;
    • Cafodd yr eitemau eu gosod yn y fath ffordd fel na all gweithwyr gasglu’r eitemau yn ddiogel;
    • Mae’r eiddo ar gau ac ni all y gweithwyr casglu gael mynediad; neu
    • Mae cwmni/ffynhonnell arall wedi casglu’r eitemau.

Yr hyn y byddwch ei angen

Gall cwsmeriaid wneud cais am Gasgliad Gwastraff Swmpus drwy ffonio 01495 311556 neu ar-lein drwy Borth Cwsmeriaid “Fy Ngwasanaethau”.

Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i ofyn am y gwasanaeth.

Bydd y broses ar-lein yn eich llywio drwy archebu casgliad, gwneud taliad a gwybodaeth ar pryd a sut y dylech roi’r gwastraff ar ochr y palmant ar gyfer ei gasglu.

Dechrau nawr >

Os ydych angen help

Os oes gennych unrhyw broblemau neu os cafodd eich casgliad ei fethu, ychwanegwch Nodyn at eich cais drwy Borth Cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau neu e-bost info@blaenau-gwent.gov.uk