Sut i Ailgylchu'n Gywir

Rydym yma i wneud yn siŵr fod gennych bopeth rydych ei angen i ailgylchu'n gywir. Peidiwch anghofio y caiff yr holl ailgylchu ei gasglu bob wythnos, gallwch weld yma pryd mae eich casgliad wythnosol: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/darganfod-eich-diwrnod-casglu-biniau/

Mwy o wybodaeth ar eich gwasanaethau casglu ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu.
   

 

Ailgylchu eich batris

O ddydd Llun 17 Ebrill 2023, pan fydd preswylwyr angen cael gwared ar unrhyw fatris o’r cartref, dylent eu rhoi yn eu bag gwyn bach ailddefnyddiadwy newydd. Ni ddylai preswylwyr ddefnyddio eu bagiau plastig untro eu hunain mwyach, nac unrhyw gynhwysydd arall, i roi eu batris allan i ni eu casglu. I gael mwy o wybodaeth: https://bit.ly/40diqPY

Casglu eu bag bach gwyn ailddefnyddiadwy newydd ar gyfer batris o’u Hwb Cymunedol agosaf, sydd mewn lleoliad canolog yn yr holl lyfrgelloedd lleol a reolir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin https://bit.ly/40gxwEa

Beth na allwn ei gasglu ar hyn o bryd yn eich ailgylchu wythnosol

Yn anffodus ni fedrwn dderbyn popeth o'ch cartref ar y cerbydau ailgylchu gan nad oes naill ai unrhyw gyfleusterau i ailgylchu hyn ar hyn o bryd, neu nad oes darpariaeth ar y cerbyd ar gyfer eitemau o'r fath. Felly er mwyn osgoi gwrthod eitemau yn eich blwch/bag ailgylchu a gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich holl gapasiti ailgylchu bob wythnos, dyma restr o enghreifftiau o bethau na allwn eu cymryd ar hyn o bryd a syniadau beth i'w wneud gyda nhw:

  • Cardfwrdd swmpuis mawr na fedrir ei dorri’n llai a’i roi yn y sach gasglu arbennig. Gellir mynd â chardfwrdd swmpus i’ch canolfan gwastraff cartrefi ac ailgylchu leol.
  • Ffilm plastig/plastig ymestyn/plastig cefn gludiog
  • Celf a chrefft; secwins, gwifren, ffyn lolipop, pompons, gliter, botymau addurniadol, sticeri ewyn (ceisiwch eu hailddefnyddio lle'n bosibl - neu os oes oes tipyn ohonynt, eu rhoi i rywun a fedrai eu defnyddio
  • Gwellt, cyllyll a ffyrc a llestri plastig (gellid eu golchi a'u hailddefnyddio)
  • Plastig du (rhowch nhw yn y bin/bag du gan y byddant yn cael eu hanfon i'w llosgi i gynhyrchu ynni
  • Eitemau plastig mawr, megis caniau dyfrio, celfi gardd (cyfrannwch nhw i gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu yn y ganolfan gwastraff gardd ac ailgylchu)
  • Gwydr wedi torri
  • Pecynnau creision (edrychwch am ardaloedd sy'n eu derbyn - mae rhai elusennau wedi dechrau eu casglu)
  • Papur lapio melysion a bisgedi (rhowch mewn bag/bin du)
  • Papur lapio metalig (efallai y gellir ei ailddefnyddio neu ei roi mewn bin/bag du os na)
  • Eitemau metal mawr megis dolenni drysau, padelli ffrio, sosbenni  (rhowch i'w hailddefnyddio lle'n bosibl neu fynd â nhw i'n canolfan gwastraff cartrefi ac ailgylchu)
  • Tecstilau brwnt/wedi torri/baeddu/gwlyb iawn a darnau deunydd (rhowch mewn bag/bin du gan y caiff tecstilau eu hailddefnyddio ac yn anffodus ni allwn drosglwyddo'r mathau hyn o decstilau)
  • Duvets a gobenyddion (gwelyau i anifeiliaid
  • Gofynnir i chi nodi na fyddwn yn casglu unrhyw gynhwysydd sy'n cynnwys ailgylchu mewn bagiau glas a chlir a ddefnyddiwyd yn y gwasanaeth ailgylchu blaenorol gan eu bod yn ymyrryd ar y peiriannau belio lle caiff yr ailgylchu ei brosesu (dim ond i gadw tecstilau/dillad yn sych y dylid defnyddio bagiau)


Gofynnir i chi wirio'r rhestr hon yn rheolaidd gan y gall marchnadoedd newydd ddatblygu ar gyfer ailgylchu rhai deunyddiau yn y dyfodol

Cynnyrch Anos eu Hailgylchu

Mae Terracycle yn gwmni ailgylchu arloesol sy'n canolbwyntio ar ailgylchu gwatraff sydd fel arfer yn anodd ei ailgylchu.
 
Mae'n cynnig nifer o raglenni am ddim i helpu gyda datrysiadau ailgylchu.
 
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:    https://www.terracycle.com/en-GB/brigades

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Gwastraff ac Ailgylchu
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk