Mapio Tyrbin Gwynt

Mapio Tyrbin Gwynt - De Ddwyrain Cymru

Mae'r map rhyngweithiol islaw'n dangos tyrbinau gwynt sy'n weithredol (gwyrdd), a gafodd ganiatâd (melyn) ac ar y cam cynllunio (coch). Dosberthir y tyrbinau hefyd yn ôl eu maint yn seiliedig ar uchder i flaen y llafn a nifer y tyrbinau (gweler y tabl islaw). Caiff maint ei gynrychioli gan ddotiau o wahanol faint - micro yw'r lleiaf a'r mawr iawn yw'r mwyaf.

Caiff pob tyrbin ychwanegol ei ddangos ar y map er y gall fod angen i chi chwyddo 'r sgrin i weld hyn. Mae hefyd yn bosibl clicio ar bob dot i gael gwybodaeth bellach.

Mae angen i chi gael Chrome (neu borwr sy'n gefnogi HTML 5) i gael y swyddogaeth lawn pan fyddwch yn edrych ar y mapiau.

Caiff y mapiau eu diweddaru'n chwarterol ac maent yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru.

Map

Gwybodaeth Gyswllt

Cynllunio Polisi
Rhif Ffôn (01495) 354740
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk