Cronfa Twf Lleol Dyfarniadau Grant Blaenoriaeth 2

Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i dargedu ardaloedd sydd ar ei hôl hi ac sydd â’r potensial mwyaf i ddal i fyny o ran cynhyrchiant, gan helpu busnesau i dyfu, creu swyddi â chyflogau gwell a chryfhau economïau rhanbarthol.

Mae'r pedwar sector twf uchel yng Nghymru wedi'u nodi fel Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni Glân, Digidol a Thechnolegau, a Chreadigol; a dau sector â photensial twf uchel yw Gwyddorau Bywyd a Gwasanaethau Ariannol.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod dau ganlyniad cyllido strategol allweddol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol ar draws y DU: Incwm Gwario Gwirioneddol Aelwydydd (RHDI) Cynyddol y pen; a Chynnyrch Domestig Gros (CDG) Cynyddol y pen.

Mae'r llinyn hwn o'r Gronfa yn canolbwyntio ar Flaenoriaeth 2.

Blaenoriaeth 2: Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i mewn i waith

  • Amcan 2.1: Lleihau lefelau anweithgarwch economaidd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yr anabl, menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
  • Amcan 2.2: Gwella sgiliau'r gweithlu trwy addysg a hyfforddiant hyblyg, sy'n seiliedig ar alw ac sy'n cyd-fynd ag anghenion sectorau twf uchel a phwysig o safbwynt rhanbarthol.

Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cynnwys cymysgedd o gyllid cyfalaf a refeniw a gynlluniwyd i gefnogi ymdrechion i hybu cynnyrch domestig gros (CDG) ac incwm gwario gwirioneddol aelwydydd (RHDI) er mwyn cyflawni economïau gwell a safonau byw uwch.

Mae bylchau sgiliau Blaenau Gwent wedi'u nodi mewn Diwydiannau Digidol a Chreadigol, a bydd prosiectau a all ddangos gweithgareddau yn y meysydd cyflogaeth a sgiliau hyn yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol.

Am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â: LocalGrowthFund@blaenau-gwent.gov.uk

Dyddiad cau

Dylid cyflwyno pob cais i: LocalGrowthFund@blaenau-gwent.gov.uk

erbyn 5yp ar 19 Mehefin 2026.

Dogfennau Cysylltiedig