Cadwraeth Ardaloedd Amgylchedd Adeiledig

Caiff llawer o adeiladau pwysig Blaenau Gwent, olion archeolegol a gofodau agored eu gwarchod er mwyn cadw eu cymeriad arbennig.

Ardaloedd Cadwraeth

Mae gan Blaenau Gwent 2 Ardal Gadwraeth a ddynodwyd ar gyfer eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, sef Parc a Gardd Bedwellte ac Ardal De'r Dref. Gallwch weld ffiniau'r ardal gadwraeth ar y map dilynol .

Mae mesurau rheoli cynllunio os yw'ch eiddo mewn ardal gadwraeth ac mae canllawiau arnynt ar y wefan Porth Cynllunio.

Os ydych yn ystyried newid eich eiddo ac yr hoffech gyngor, fe'ch cynghorir i gyflwyno ymholiad cyn gwneud cais.

Mae hefyd angen caniatâd ar gyfer gwaith i goed o fewn Ardaloedd Cadwraeth.

Parciau a Gerddi Hanesyddol

Parc a Gardd Bedwellte yw'r unig Barc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig ym Mlaenau Gwent ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae'r gofrestr yn rhoi gwybodaeth i helpu gyda gwarchodaeth a chadwraeth y lleoedd arbennig yma.

Adeiladau Rhestredig

Mae 53 Adeilad Rhestredig ym Mlaenau Gwent. Caiff adeiladau eu rhestru gan Cadw i sicrhau y caiff eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ei gydnabod yn llawn. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig pan mae newid neu estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig neu rai yn ei libart.

Henebion Rhestredig

Mae gan Cadw 13 Heneb Restredig ym Mlaenau Gwent.

Mae'n drosedd gwneud gwaith ar safle heneb rhestredig heb yn gyntaf gael y Caniatâd Heneb Rhestredig gofynnol gan Cadw.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 355555
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau GwentY Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk