Cyngor Diwygio Lles

 

Credyd Cynhwysol

Mae'r Credyd Cynhwysol yn un taliad cymorth newydd prawf modd ar gyfer pobl o oed gwaith mewn ac allan o waith. Byddd y Credyd Cynhwysol yn cyfuno chwe budd-dal presennol a chredyd treth yn un taliad. Ymwelwch â'n hadran Credyd Cynhwysol a Chymorth Cynhwysol i gael manylion pellach.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Ers mis Ebrill 2013 cafodd budd-dal newydd o'r enw Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ei gyflwyno'n raddol yn lle Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer rhai 16-64 oed.

Mae mwy o wybodaeth am y Taliad Annibyniaeth Personol a sut y cyflwynir y newidiadau ar gael ar wefan GOV.UK.

Cynllun Gostwng Treth Gyngor

Os oes gennych anhawster talu'ch Treth Gyngor, cysylltwch a'r Adran Budd-daliadau ar 01495 353398 neu e-bowstich benefits@blaenau-gwent.gov.uk gan y gallech fod yn gymwys I gael cy-morth ychwanegol ar ffurf Gostyngiad y Dreth Gyngor.  

Diweddariad pwysig - Dywedwch wrth Gyngor Blaenau Gwent eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a gwneuch hawliad ar wahan am ostyngiad y Dreth

Cronfa Cymorth ar Ddisgresiwn

Mae'r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn yng Nghymru yn disodli rhan o'r Gronfa Gymdeithasol a arferai gael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Efallai eich bod yn ei hadnabod fel 'benthyciadau argyfwng' neu 'grantiau gofal cymunedol'.

Gallwch wneud cais am daliad o'r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o dalu am yr hyn rydych ei angen. Maent ar gyfer talu costau unigol yn hytrach na threuliau parhaus.

Mae'r gronfa'n cynnig taliadau grant neu gymorth ar gyfer dau ddiben:

  • Taliadau Cymorth Argyfwng i roi help gydag argyfwng neu pan fo bygythiad ar unwaith i'ch iechyd neu les chi neu rywun yn eich teulu.
  • Taliadau cymorth unigol i'ch helpu chi neu rhywun y gofalwch amdano i fyw'n annibynnol yn y gymuned ac atal yr angen am ofal sefydliadol.

I gael mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ewch i Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk