Tan Ddeiliadaeth

Mae'n rhaid i denantiaid oedran gwaith sy'n byw mewn cartrefi Cymdeithasau Tai dalu 14% cyntaf eu rhent heb Fudd-dal Tai os oes ganddynt un ystafell wely wag a 25% o'u rhent os oes ganddynt ddwy neu fwy o ystafelloedd gwely gwag.

Drwy ddefnyddio cyfrifwr ystafelloedd gwely yr Adran Gwaith a Phensiynau gallwch wirio faint o ystafelloedd gwely y byddwch wirioneddol eu hangen.

Mae eithriadau:

  • Gofalwyr - Os yw'r sawl sy'n hawlio Budd-dal Tai neu eu partner angen gofal dros nos yn gyson ac yn aml a gaiff ei ddarparu gan rywun nad yw fel arfer yn byw yn y cartref, gellir caniatau ystafell ychwanegol ar gyfer y gofalwr hynny (cyhyd â bod ystafell wely yn rhydd iddynt eu defnyddio yn yr eiddo).
  • Cartref - Gellir caniatau ystafell wely yr un i ddau blentyn y disgwylid iddynt rannu ystafell wely fel arfer ond na allant wneud hynny oherwydd salwch difrifol neu anabledd
  • Lluoedd Arfog - Gellir caniatau ystafell wely os yw mab/merch/llysfab /llysferch y sawl sy'n hawlio Budd-dal Tai (neu eu partner) fel arfer yn byw yn yr eiddo ond yn absennol oherwydd eu bod i ffwrdd yn gweithio gyda'r lluoedd wrth gefn neu'r lluoedd arfog arferol. Mae'n rhaid iddynt fwriadu dychwelyd i fyw yn yr eiddo fel eu cartref a chael eu trin fel bod yn byw yn yr eiddo.  Fel arfer bydd hyn wedi golygu tynnu swm o Fudd-dal Tai y sawl sy'n hawlio budd-dal ohrewydd eu bod yno. Ni wneir y tyniad yma tra bod y plentyn sydd wedi tyfu lan i ffwrdd yn gweithio er y bydd ystafell wely wedi ei neilltuo iddynt yn ystod eu habsenoldeb.
  • Gofalwyr maeth - Gellir caniatau un ystafell wely ychwanegol (faint bynnag o blant sy'n cael eu maethu) p'un ai a gafodd plentyn eu lleoli gyda nhw ai peidio AC rhwng lleoliadau cyhyd â'u bod wedi maethu plentyn, neu ddod yn ofalwr maeth cymeradwy yn y 12 mis diwethaf. Gellir caniatau hyn yn ychwanegol i unrhyw ystafell wely a ganiateir ar gyfer gofalwr dros dro.

Yn yr achosion hyn dylai'r person sy'n hawlio Budd-dal Tai gysylltu â'r adran i gael mwy o gyngor gan y gall fod angen mwy o wybodaeth neu dystiolaeth bellach cyn y gellir caniatau ystafell wely ychwanegol.

Yn cael trafferthion gyda'r rheol Tan-ddefnydd?

Deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw hyn ac nid oes gennym unrhyw ddisgresiwn am wneud y gostyngiadau hyn o Fudd-dal Tai. Gall tenantiaid ofyn am Daliad Tai ar Ddisgresiwn i helpu gyda'r gost ond swm cyfyngedig sydd ar gael yn y gronfa a dim ond i helpu'r rhai sydd yn yr angen mwyaf y gallwn eu helpu.

Yn y lle cyntaf, gallwn roi cyngor am ddim i bobl yr effeithir arnynt a gall hyn gynnwys atgyfeirio at gyrff eraill i gael cyngor/cefnogaeth fwy manwl. Cysylltwch â ni ar 01495 311556, e-bost benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu drwy lenwi'r ffurflen ymholiad.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk