Os oes Llifogydd

  • Os ydych mewn sefyllfa lle caiff bywyd ei fygwth, ffoniwch y gwasanaethau argyfwng ar 999
  • I'n hysbysu am broblem a gofyn am wybodaeth am bethau fel bagiau tywod, cysylltwch 01495 311556
  • Os ydych yn bryderus am berson agored i niwed cysylltwch â 01495 311556.

Yn ystod llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwybodaeth fanwl am beth i'w wneud os oes llifogydd.

Bagiau tywod

Sut i gael bagiau tywod.

Gall Blaenau Gwent ddarparu bagiau tywod i helpu atal llifogydd i eiddo. Fodd bynnag, nid ydym fel arfer yn darparu bagiau tywod heblaw mewn argyfwng. Dyna pam fo mwyaf o alw ar ein hadnoddau ac er y gwneir pob ymdrech i fynd i eiddo sydd mewn perygl o lifogydd, ni ellir gwarantu darparu bagiau tywod. Oherwydd hyn caiff y rhai sydd â phrofiad o lifogydd yn y gorffennol eu hannog i wneud eu trefniadau eu hunain i ddiogelu eu heiddo. Mae cyngor ymarferol ar sut i wneud eich bagiau tywod eich hun i ddiogelu eich cartref ar gael ar y ddalen gwybodaeth bagiau tywod.

Ffoniwch 01495 311556 i ofyn am i fagiau tywod gael eu dosbarthu i chi. Codir tâl am ddarparu, dosbarthu a gosod bagiau tywod, heblaw mewn amgylchiadau lle bernir na fyddai'n rhesymol bod wedi rhagweld llifogydd a/neu y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i'r unigolyn i fod wedi paratoi am ddiogelu eu heiddo cyn y digwyddiad llifogydd.

Aros yn effro i lifogydd lleol

Caiff 'llifogydd lleol' hefyd ei adnabod fel 'llifogydd dŵr wyneb'. Mae hyn fel arfer yn digwydd lle na all systemau draenio ymdopi gyda chyfnodau hir o lawiad. Mae gwybodaeth ar rybuddion tywydd ar gael ar wefan Swyddfa'r Met.

Dylech ymgyfarwyddo am unrhyw asedau megis cylfertau draeniad, ffosydd, pylloedd, gridiau neu nentydd a allai achosi llifogydd yn eich eiddo pe byddent yn blocio. Os yw'n ddiogel cynnal arolwg o'r asedau hyn, dylid gwneud hynny cyn unrhyw law trwm a ragwelir fel y gellir rhoi adroddiad ar bryderon a'u trin cyn unrhyw ddigwyddiad.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB

E-bost:  info@blaenau-gwent.gov.uk