Gwirio Ardaloedd Risg, Rhybuddion a Hysbysiadau Llifogydd

Gwiriwch os yw'ch eiddo mewn risg o lifogydd

I ganfod os yw eich eiddo mewn risg o lifogydd, gallwch ddefnyddio mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent yn rhoi gwybodaeth ar risg llifogydd o:

Afonydd
Dŵr Wyneb
Cronfeydd Dŵr

Rhybuddion Llifogydd

Afonydd 

Gallwch wirio statws rhybuddion llifogydd presennol ar gyfer afonydd ym Mlaenau Gwent:

Gallwch hefyd ffonio Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro ac yn trin risg llifogydd o afonydd

Dŵr Wyneb

Mae llifogydd o ddŵr wyneb yn digwydd pan na all y system ddraenio leol ymdopi gyda'r glawiad.

Mae rhybuddion tywydd ar gael ar wefan Swyddfa'r Met, mae hyn yn cynnwys rhybuddion am law.

Dylech sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw beth megis cylferti draeniad, ffosydd, pyllau, gridiau neu nentydd a allai achosi llifogydd i'ch eiddo os ydynt yn blocio. Os yw'n ddiogel archwilio'r pethau hyn, dylid gwneud hynny cyn unrhyw law trwm a ddisgwylir fel y gellir rhoi adroddiad am bryderon  fel y gallant gael eu trin cyn i unrhyw beth ddigwydd.

Dylech hefyd gadw golwg ar ragolygon y tywydd a chymryd camau priodol fel bo angen.

Mae'r rhagolygon tywydd diweddaraf ar gyfer eich ardal ar gael yma

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB

E-bost:  info@blaenau-gwent.gov.uk