Rhoi Adroddiad am Broblem Gyda Llifogydd neu Ddraeniad

Mewn argyfwng

Os yw dŵr yn dod i mewn i'ch eiddo neu os oes risg i fywyd, ffoniwch y gwasanaethau argyfwng ar 999.

Cysylltwch â'r Tîm Argyfyngau Sifil os yw dŵr yn dod i mewn i'ch eiddo neu os yw dan ddŵr ac angen siarad gyda rhywun i gael mwy o gyngor:

Yn ystod oriau gwaith: 01495 355568

Tu allan i oriau gwaith: 01495 311556

Llifogydd o briffyrdd

Dylid rhoi adroddiad am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gwlïau yn gorlifo o fewn y rhwydwaith priffyrdd a gaiff ei reoli gan Gyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent i'r Adran Priffyrdd ar y manylion cyswllt islaw:

Ffôn: 01495 311556

Dylid rhoi adroddiad am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gwlïau yn gorlifo ar gefnffyrdd (A465) i Asiantaeth Trafnidiaeth De Cymru.

Llifogydd o afonydd

'Prif afonydd'

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoli llifogydd o afonydd mawr, a elwir yn 'brif afonydd. O fewn Blaenau Gwent yr afonydd yma yw:

Afon Sirhywi
Afon Ebwy
Afon Ebwy Fach 

Dylid hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd o 'brif afonydd' neu ffoniwch y llinell argyfwng

Llinell ffôn frys 0800 80 70 60 (24 awr)

I wrando ar recordiad o wybodaeth ar rybuddion llifogydd ar gyfer eich ardal neu i siarad gyda rhywun i gael cyngor, ffoniwch 0345 988 1188 (24 awr).

Afonydd eraill

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent sy'n gyfrifol am lwybrau dŵr llai, na chafodd eu dosbarthu fel 'prif afonydd'. Cysylltwch â 01495 311556.

Llifogydd o garthffos gyhoeddus, prif bibell ddŵr wedi torri neu bibell gwasanaeth dŵr

Dylid rhoi adroddiad am lifogydd o'r ffynonellau hyn i:

Dŵr Cymru ar 0800 0853968 (24 awr)

Llifogydd o bob ffynhonnell arall

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent sy'n gyfrifol am reoli'r risg yn deillio o lifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin (cyrsiau dŵr llai a ffosydd).

Os ydych yn profi llifogydd o ddŵr wyneb (dŵr ffo neu byllau), dŵr daear neu unrhyw gyrsiau dŵr bach neu ffosydd (cyrsiau dŵr cyffredin), defnyddiwch yr e-ffurflen ar y dudalen hon neu gysylltu â ni ar 01495 311556.

Llifogydd hanesyddol

Bydd gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o lifogydd hanesyddol ar draws y fwrdeisdref yn ein helpu i ganolbwyntio ein hadnoddau a'n cyllid ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf agored i lifogydd.

Rydym yn gweithio i baratoi tudalen gwefan i'ch galluogi i lanlwytho gwybodaeth sydd gennych ar lifogydd cyfredol a hanesyddol.

Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol ar lifogydd hanesyddol, yn cynnwys ffotograffau, anfonwch unrhyw wybodaeth at y tîm  seilwaith yn defnyddio unrhyw rai o'r manylion cyswllt islaw os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB

E-bost:  info@blaenau-gwent.gov.uk