Ysgolion yn agor caffe cymunedol a phantri

Cafodd Caffe Cymunedol a Phantri Cymunedol newydd eu hagor yn yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm a Chyfnod Cynradd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yng Nglynebwy.

Lansiwyd y caffe a’r pantri yn swyddogol gan Nick Smith, Aelod Seneddol Blaenau Gwent.

Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng y ddwy ysgol sy’n rhannu safle. Caiff y Caffe Cymunedol ei redeg gan ddisgyblion ôl-16 o Ysgol Pen-y-Cwm fydd yn gweini te, coffi a lluniaeth. Bydd hyn yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i ddisgyblion a bydd hefyd yn fan croesawgar i rieni a’r gymuned ehangach alw heibio.

Mae nod y Pantri Cymunedol yn debyg i fanc bwyd, sef darparu bwyd i deuluoedd yn y ddwy ysgol ar adeg pan fo angen hynny. Mae Heddlu Bach Cyfnod Cynradd Ebwy Fawr yn arwain ar drefnu a stocio’r pantri cymunedol.

Dywedodd Carys Llewellyn, Pennaeth Cynradd Cyfnod Cynradd Ebwy Fawr:

“Mae Pen-y-cwm ac Ebwy Fawr wrth eu bodd i gydweithio ar y prosiectau hyn. Mae’r penderfyniad i gynnwys y gair ‘cymunedol’ yn enwau’r pantri a’r caffe yn ddewis bwriadol iawn gan y gobeithiwn y bydd y ddau gyfleuster yn ased ac adnodd y gellir eu defnyddio i gefnogi ein cymunedau ysgol a’r gymuned ehangach yng Nglynebwy.”

Dywedodd Deborah Herald, Pennaeth Ysgol Pen-y-Cwm:

“Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl staff sydd wedi arwain ar drefnu a sefydlu’r caffi a’r pantri bwyd. Hoffem hefyd ddiolch i Ron Skinner a’i Feibion, Tesco a’r Principality am eu cyfraniadau hael yn ogystal ag Arlwyo Blaenau Gwent am eu cefnogaeth.”

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Wow, am brosiect gwych ydi hwn. Mae’n rhoi profiad o waith go iawn a chyfrifoldeb i rieni, gan gysylltu gyda’r gymuned leol a hefyd helpu’r teuluoedd hynny mewn angen yn ystod y cyfnod ariannol anodd yma.

“Da iawn chi a phob lwc bawb”.

Bydd y caffe ar agor i aelodau’r cyhoedd rhwng 9am a 11am ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener.