Pwyllgor Cynllunio Blaenau Gwent yn cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu ar gyfer Parc yr Ŵyl, Glynebwy

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Blaenau Gwent heddiw wedi cymeradwyo’r cais cynllunio a gyflwynwyd gan gwmni datblygu eiddo Mercia Real Estates (MRE) i addasu adeiladau a newid defnydd hen safle canolfan siopa Parc yr Ŵyl, Glynebwy i fod yn ganolfan fusnes defnydd cymysg.

Mae’r manylion yn nodi mai prif ffocws y datblygiad yw darparu safleoedd ar gyfer busnesau, crefftau, storfa fach a gweithredwyr logistaidd a ddaw o fewn categorïau ‘Dosbarthiadau Defnydd’ A, B a D.

Ni chynigir unrhyw newidiadau i’r mannau mynediad o’r rhwydwaith ffyrdd o amgylch y safle neu i unrhyw un o’r ardaloedd ehangach sydd wedi eu tirlunio.

Bydd y diwygiadau maes o law yn rhoi naw adeilad a fyddai’n cynnig 28 uned o arwynebedd llawr yn amrywio o 89 i 790 metr sgwâr. Caiff y cais cyffredinol ei ystyried yn ddatblygiad mawr gan fod arwynebedd y safle yn fwy na 1 hectar.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet dros Lle ac Adfywio:
“Mae hyn yn awr yn ei gwneud yn bosibl i ddatblygu a defnyddio Parc yr Ŵyl. sy’n wag ar hyn o bryd, ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan felly roi oes newydd i’r safle. Mae’r datblygiad yn gydnaws yn strategol â gweledigaeth Cymoedd Technoleg ac yn cyfarch angen lleol am fwy o unedau busnes yn yr ardal. O safbwynt datblygu econonomaidd, rydym yn awyddus i gefnogi busnesau newydd, cefnogi ein busnesau cynhenid lleol i dyfu a denu prosiectau mewnfuddsoddi i’r ardal. Bydd y datblygiad hwn yn gweithredu fel catalydd ar gyfer busnes y dyfodol ac yn galluogi creu mwy o swyddi o fewn yr ardal.”