Prentis Talentog Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ar restr fer Gwobrau Prentisiaeth 2022

Llongyfarchiadau i Evan Coombes, Prentis Dechnegydd Labordy yn PCI Pharma Tredegar, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2022. Ymunodd Evan â’r busnes datrysiadau fferylliaeth a biofferylliaeth byd-eang drwy Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.

Enillodd Evan, 19 oed o Flaenafon, fedal aur yng nghategori Technegydd Labordy Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae wedi arbed amser ac arian i’w gyflogwr gyda’r data a gasglodd ar gyfer prosiect gwella parhaus.

Nawr mae Evan ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Talent Yfory yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2022. Caiff enwau’r buddugwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithiol ar 10 Tachwedd ac mae’r gwobrau yn rhoi sylw i lwyddiannau eithriadol mewn cyfnod na welwyd ei debyg, gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW).

Caiff Evan, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth a gyflwynir gan Goleg y Cymoedd, ei gyflogi ar y cyd gan PCI Pharma Services ac Anelu’n Uchel Blaenau Gwent. Mae hefyd yn astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Cemeg Cymwysedig yng Ngholeg Gwyr, Abertawe.

Wedi’i ganmol am ei waith ardderchog, mae Evan eisoes yn gweithio i safon dadansoddydd Lefel 1 y diwydiant ac yn gweithio goramser i sicrhau y caiff meddyginiaeth achub bywyd ei dosbarthu i’r farchnad cyn pryd ac y caiff targedau ariannol eu cwrdd yn yr adran lle mae’n gweithio.

Dywedodd Danielle Davies, arweinydd tîm sefydlogrwydd PCI: “Gwelais Evan yn tyfu mewn cyfnod byr i ddod yn ddadansoddydd galluog a chyflawn o fewn blwyddyn cyntaf ei brentisiaeth. Mae ei lwyddiannau i gyd wedi bod oherwydd ei ymroddiad i ddysgu a’r awydd i wneud yn dda. Mae wedi cwblhau pob tasg i 100% o’i allu ac wedi cyrraedd yr holl nodau ac amcanion a osodwyd.”

Er iddo wneud yn dda yn ei arholiadau Lefel A, roedd Evan yn ansicr am fynd i brifysgol oherwydd bygythiad mwy o ddysgu o bell a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae’r brentisiaeth gyda Anelu’n Uchel a PCI wedi ei alluogi i ddefnyddio ei wybodaeth a sgiliau, ennill profiad, hybu ei addysg a datblygu gyrfa.

Dywedodd Evan: “Rwy’n gwirioneddol fwynhau fy swydd oherwydd mae’n golygu gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd ac mae’n fy ngalluogi i roi popeth a ddysgaf ar waith. Fy uchelgais yw parhau i sicrhau cynnydd gyda PCI.”

Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Tîm Sgiliau Rhanbarthol Anelu’n Uchel: “Mae llawer iawn o gystadleuaeth i gyrraedd rowndiau terfynol y wobr hon felly mae cyrraedd y rhestr fer yn gryn gamp. Mae rhaglen Anelu’n Uchel yn cydnabod pwysigrwydd profiad gwaith ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn hollol gefnogol i’r ymagwedd hon. Hoffwn longyfarch Evan ar gyrraedd ei le yn y rownd derfynol ac estyn fy nymuniadau gorau oll iddo ar gyfer y noswaith wobrwyo.”

Evan Coomes, Prentis Technegydd Labordy yn PCI Pharma, sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2022 yng nghategori Gwobr Galent Yfory.