Glynebwy - Gwasanaethau Rheilffordd Newydd Sbon

Bydd gwasanaethau rheilffordd NEWYDD SBON yn cael eu lansio ar un o brif reilffyrdd De Cymru, gan bron ddyblu nifer yr opsiynau teithio.

Diolch i fuddsoddiad o £70 miliwn drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, bydd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn darparu gwasanaethau uniongyrchol rhwng Glynebwy a Chasnewydd.

O fis Rhagfyr ymlaen, bydd dau drên yr awr yn rhedeg ar y rheilffordd – un i Gaerdydd ac un i Gasnewydd.

Mae hynny’n golygu y bydd gan y rheilffordd fwy na 60 o wasanaethau’n rhedeg arni bob un diwrnod.

Dywedodd Kevin Lewis, Noddwr Prosiect TrC fod y prosiect yn enghraifft o “gydweithio go iawn”.
Dywedodd: “Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn hwb enfawr i’r economi leol gan roi mwy o opsiynau teithio i bobl ar gyfer hamdden, dysgu a busnes.

“Os ydych chi eisiau teithio i Fryste, Llundain neu Fanceinion, does dim rhaid i chi fynd yn ôl i Gaerdydd mwyach, er bod y gwasanaethau hynny’n dal yno i’r rheini sy’n mynd i’r gorllewin.

“Mae TrC, Network Rail a’n partneriaid yng Nghyngor Blaenau Gwent, yn ogystal â Chyngor Caerffili, wedi gweithio’n eithriadol o agos i sicrhau ein bod wir wedi cael gwerth am arian o’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi bod yn ymdrech ar y cyd go iawn.”

Fel rhan o’r prosiect hwn, mae pont droed gwbl hygyrch wedi cael ei hadeiladu hefyd yn Llanhiledd a phlatfformau newydd yn Llanhiledd a Threcelyn, sy’n golygu bod mynediad heb risiau at bob platfform ar y rheilffordd.

Er mwyn i’r gwasanaethau allu rhedeg, mae dolen basio newydd 7 milltir o hyd wedi cael ei hadeiladu rhwng Crosskeys ac Aberbîg ochr yn ochr â gwaith cloddio a draeniau newydd, a adeiladwyd ar gyfer y cledrau newydd. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail wedi darparu £17m arall o gyllid i uwchraddio signalau ym mhen deheuol y rheilffordd.

Mae Network Rail gyda chontractwyr AmcoGiffen a Siemens wedi bod yn cyflawni’r gwaith ar y seilwaith dros y 18 mis diwethaf. Nodir cam nesaf y gwaith isod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwaith yn barhaus (24/7) wrth i fysiau ddisodli trenau.
• Dydd Sul 24 Medi
• Dydd Sadwrn 30 Medi a dydd Sul 1 Hydref
• Dydd Sul 15 Tachwedd i ddydd Llun 4 Rhagfyr 2023

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rwy’n falch iawn ein bod nawr yn dechrau ar gam olaf y gwaith a fydd yn trawsnewid sut mae teithwyr yn teithio ar reilffordd Glynebwy.

“Rydyn ni’n falch o ddarparu teithiau carbon isel a chefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys symud oddi wrth ddefnyddio ceir preifat. Bydd hefyd yn helpu i gysylltu cymunedau a rhoi hwb i’r economi leol.

“Hoffwn ddiolch eto i deithwyr a’n cymdogion am barhau i fod yn amyneddgar wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn.”

Bydd tocyn dwyffordd o Dref Glynebwy i Gasnewydd yn costio £8.30 neu bydd tocyn tymor saith diwrnod yn costio £29.10 (yn gywir hyd at fis Mawrth 2024).

Ailagorodd rheilffordd Glynebwy yn 2008 ar ôl bod ar gau am 40 o flynyddoedd ac roedd y gwasanaethau uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd Canolog yn boblogaidd ar unwaith gyda theithwyr.

Yn 2014, agorodd gorsaf newydd sbon yn Pye Corner a oedd yn gwasanaethu teithwyr ym mhen deheuol y rheilffordd ac yn 2015, gosodwyd tua 1.5 milltir o gledrau newydd i ymestyn y rheilffordd o Barcffordd Glynebwy i orsaf newydd sbon yn Nhref Glynebwy.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Blaenau Gwent:
“Rwy’n falch bod y gwaith i wella’r gwasanaeth rheilffyrdd bron â gorffen. Mae gweithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru i wella cyswllt rheilffordd Glyn Ebwy er mwyn cael cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn dal yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd gwasanaeth amlach yn gwella cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi, mynediad at gyflogaeth yn yr ardal leol a thu hwnt ac yn gwella rhydweli drafnidiaeth hanfodol sy’n cael ei hystyried yn brif ffactor yng nghyd-destun cynnig ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a datblygiad y Metro.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Eiddo a Phriffyrdd yng Nghyngor Caerffili:
“Mae’r gwelliannau yng ngorsaf Trecelyn a’r gwaith ehangach ar y llwybr rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn gam gwych ymlaen tuag at wella mynediad i bawb at drafnidiaeth gyhoeddus.

“Nid yn unig y byddant yn gwella mynediad i deithwyr anabl, dylent hefyd annog mwy o bobl i deithio ar drenau a gwella profiad teuluoedd sydd â phramiau a’r rheini sydd â bagiau.

“Hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid i gyd am eu holl waith caled a Llywodraeth Cymru am ei buddsoddiad i wireddu’r gwaith hwn. Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i bobl yn lleol.”

O ganlyniad i’r cynnydd mewn gwasanaethau, bydd amseroedd y trenau’n newid, felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cadarnhau manylion eu taith o 11 Rhagfyr ymlaen.