Diweddariad ar Raac ym Mlaenau Gwent

Mae’n sicr y byddwch wedi gweld y sylw ar y newyddion yn yr wythnos ddiwethaf i’r sefyllfa gydag ysgolion yn Lloegr yn gorfod cau oherwydd bod concrit Raac mewn adeiladau a gafodd eu codi mewn cyfnod neilltuol.

Mae Raac yn fath ysgafn o goncrit sy’n cynnwys swigod aer ac fel arfer mae i’w gael mewn toeau ac weithiau mewn waliau a lloriau. Mae’n edrych yn debyg i goncrit arferol ond mae Raac yn wan a llai gwydn na choncrit“traddodiadol” sydd wedi ei atgyfnerthu.

Diogelwch a lles disgyblion a staff yw’r brif flaenoriaeth. Yn dilyn rhai asesiadau dechreuol yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi blaenoriaethu ysgolion, a gallwn ddweud gyda graddfa uchel iawn o sicrwydd nad oes unrhyw ysgolion ym Mlaenau Gwent yn cynnwys Raac.

Rydym yn parhau i asesu adeiladau eraill.