Sesiwn Galw Heibio Costau Byw

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cynnal sesiwn cyngor a chymorth ar gyfer preswylwyr sy’n bryderus am y cynnydd yng nghostau tanwydd, bwyd a chostau byw eraill. Sesiwn galw heibio yw hon ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.

Bydd staff Blaenau Gwent a sefydliadau eraill ar gael i roi cyngor a chymorth i helpu pobl gydag ymholiadau am y Dreth Gyngor, eu biliau ynni, tariffau dŵr, cymhwyster am grantiau, cymorth tai, iechyd a llesiant yn ogystal â bwyd, addysg a hawlio budd-daliadau.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 22 Ebrill 2023 rhwng 10am – 1pm yng Nghanolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, Stryd James, Glynebwy, NP23 6JG.

 

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

‘Nid yw’r argyfwng costau byw drosodd ac mae llawer o deuluoedd lleol yn parhau i wynebu heriau ariannol. Mae’n bwysig fod pobl yn cael cyngor a chymorth i’w helpu gyda biliau ynni, bwyd, tanwydd a mwy.

Mae amrywiaeth o fesurau ar gael i helpu pobl i gynyddu eu hincwm i dalu am gostau byw hanfodol. Fodd bynnag, efallai nad yw’n rhwydd bob amser i wybod pa gymorth sydd ar gael na sut i wneud cais ac fel canlyniad nid yw llawer o fudd-daliadau yn cael eu hawlio.

Peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod yn derbyn popeth mae gennych hawl iddo, ac rwyf bob amser yn annog pobl i wirio. Gobeithiaf y bydd y digwyddiad hwn yn helpu pobl i gael yr wybodaeth ddiweddaraf i helpu gan fod llawer o gynlluniau cymorth y gaeaf wedi dod i ben eisoes neu’n dod i ben yn y dyfodol agos.’