Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Blaenau Gwent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn falch o fod wedi arwyddo Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Blaenau Gwent. Mae Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Blaenau Gwent yn ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth ar y cyd rhwng cymuned sifil a’i chymuned Lluoedd Arfog ar y lefel leol sy’n anelu at wneud y canlynol:
  • annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal;
  • meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog;
  • cydnabod a chofio’r aberth y mae cymuned y Lluoedd Arfog yn ei hwynebu, ac annog gweithgareddau sy’n helpu i integreiddio cymuned y Lluoedd Arfog i fywyd lleol;
ac annog cymuned y Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi’r gymuned ehangach, boed hynny drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd neu fathau eraill o ymgysylltu.

Dogfennau Cysylltiedig