Talu eich Bil Ardrethi Busnes

Talu eich bil dros y ffôn, drwy ddebyd uniongyrchol neu ar-lein

Fel arfer mae eich bil ardrethi busnes yn daladwy mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill i’r mis Ionawr dilynol. Mewn rhai amgylchiadau gallwn gytuno ar drefniadau talu eraill.

Debyd Uniongyrchol

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd rwyddaf i dalu. Gallwch drefnu hyn drwy 01495 355212 yn ystod oriau swyddfa. Yn lle hynny, mae ffurflen Debyd Uniongyrchol y gallwch ei hargraffu, ei llenwi a’i dychwelyd atom. Gallwch dalu ar 2il, 9fed, 16eg neu 23ain pob mis. Byddwch angen eich rhif cyfrif ardrethi busnes, rhif cyfrif banc a chod didoli banc.

Talu Ar-lein

Gwneud Taliad Ar-lein

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Cyswllt

Adran Ardrethi Busnes
Rhif Ffôn: 01495 355212
Cyfeiriad: Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN        Cyfeiriad E-bost:  NNDR@blaenau-gwent.gov.uk