Teithi Busnes - Gostyngiadau

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Cymru - 2024/25

Yn 2024-25, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £78m o gymorth ardrethi annomestig wedi’i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch e.e. siopau, tafarndai, bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio, gwestai ac ati.

Nod y rhyddhad yw darparu cymorth ar gyfer eiddo a feddiannir cymwys, drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig.

Bydd y rhyddhad yn amodol ar gap yn y swm y gall pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes, ac mae’n ofynnol i bob busnes wneud datganiad wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol, yn cadarnhau nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei geisio ar draws Cymru yn fwy na’r cap hwn.

Rhaid gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol erbyn 31 Mawrth 2025 er mwyn i dalwyr ardrethi fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad yn 2024-25. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i gael rhyddhad yn 2024-25 o dan y cynllun hwn.

Darllenwch ganllawiau pellach ar Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Cymru 2024/25.

Gwnewch gais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-25 YMA

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru

Daeth cynllun parhaol newydd i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd safleoedd busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn derbyn rhyddhad 100%; a
  • bydd rhai gyda gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad ar sail tapr o 100% i sero.

Bydd y mathau dilynol o fusnes yn parhau i gael rhyddhad fel sy’n dilyn:

Safleoedd Cofrestredig Gofal Plant

Caiff y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar gyfer darparwyr gofal plant ei gynyddu i roi rhyddhad 100% i bob darparydd cofrestredig gofal plant yng Nghymru. Dechreuodd y lefel uwch hwn o ryddhad ar 1 Ebrill 2019 ac roedd yn ei le am dair blynedd hyd 31 Mawrth 2022, a chaiff ei werthuso wedyn i asesu ei effaith.

Swyddfeydd Post

  • Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn derbyn rhyddhad 100%
  • Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad 50%

Terfyn Amlfeddiannaeth

Lle mae trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (“rhestr leol”) ac mai dim ond amodau gwerth ardrethol y mae’r eiddo hynny yn ei gyrraedd, dim ond am uchafswm o ddau eiddo o’r fath y bydd y talwr ardrethi yn derbyn rhyddhad.

Rhyddhad Trosiannol

Ar gyfer eiddo sy’n cymhwyso, dim ond am atebolrwydd ardrethi annomestig o fewn y cyfnod 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 y bydd rhyddhad trosiannol ar gael.

Mae canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Trosiannol yn awr ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Sut i wneud cais

Os ydych yn gymwys, caiff rhyddhad ardrethi trosiannol ei roi yn awtomatig ar eich bil felly ni fydd angen i chi wneud cais amdano. 

Eiddo Gwag neu a Ddefnyddir yn Rhannol / Eiddo Eithriedig

Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Eiddo Gwag

Caiff eiddo busnes gwag eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am 3 mis ar ôl i’r eiddo ddod yn wag. Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer rhai mathau o eiddo dan werth ardrethol penodol. Mae’r rhaib yn cynnwys:

  • safleoedd diwydiannol, tebyg i warysau, sydd wedi eu heithrio am 3 mis pellach
  • adeiladau rhestredig sydd wedi eu heithrio nes cânt eu defnyddio eto
  • adeiladau gyda gwerth ardrethol dan £2,600 sydd yn eithriedig nes cânt eu defnyddio eto
  • adeiladau y mae’r elusennau yn berchen arnynt, sydd wedi eu eu heithrio os yw defnydd nesaf yr adeilad yn debyg o fod yn gyfangwbl neu’n bennaf ar gyfer dibenion elusennol
  • adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sydd yn eithriedig os yw eu defnydd nesaf yn debygol o fod yn gyfangwbl neu’n bennaf ar gyfer clwb chwaraeon
  • busnes y mae ei berchennog yn gwmni sy’n destun gorchymyn dirwyn i ben a wnaed dan Ddeddf Ansolfedd 1986 sy’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
  • busnes y mae ei berchennog yn cwmni yn nwylo gweinyddwyr o fewn ystyr 1 Atodlen B1 Deddf Ansolfedd 1986 neu sy’n destun gorchymyn gweinyddiaeth a wnaed dan y darpariaethau gweinyddiaeth blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 Gorchymyn Deddf Menter 2002 (Dechreuad Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
  • busnes y mae gan ei berchennog hawl i feddiant yn unig yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person sydd wedi marw.

Ar ôl i’r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn atebol am y bil ardrethi busnes llawn. Dylech hysbysu eich awdurdod lleol pan ddaw eich eiddo yn wag a hefyd pan fydd cael ei ddefnyddio eto.

 

Rhyddhad ardrethi ar gyfer Eiddo a Ddefnyddir yn Rhannol (Adran 44A)

Lle ymddengys i’r awdurdod mai dim ond rhan o eiddo sy’n wag, ac y bydd yn parhau felly am gyfnod byr, yna gall yr awdurdod ofyn i’r Swyddfa Prisio ddyrannu’r gwerth ardrethol ac felly godi ardrethi ar y rhan a ddefnyddir. Dylid nodi y gall y rhan nas defnyddir ddal i fod yn atebol am ffi ardrethi eiddo gwag.

Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes ar 01495 355212

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes

Rhif Ffôn: 01495 355212
Cyfeiriad: Adran Refeniw, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Cyfeiriad E-bost: nndr@blaenau-gwent.gov.uk