Cronfa Ffyniant Gyffredin

 

Mae ceisiadau am y cyllid hwn bellach AR GAU.

Cyngor Blaenau Gwent yn gwahodd partïon trydydd sector i wneud ceisiadau am gyllid i gefnogi cyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan ganolog o agenda uchelgeisiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Godi’r Gwastad ac yn rhan sylweddol o’i chefnogaeth ar gyfer lleoedd ar draws y DU.

Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw cynyddu balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y Deyrnas Unedig.

Rhannwyd y Gronfa yn dri maes blaenoriaeth:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol; a
  • Pobl a Sgiliau

Mae’r grant hwn dan ddarpariaeth Cymuned a Lle ac mae ganddo’r ddwy amcan ddilynol:

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn, drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n cynyddu cysylltiadau a chyfleusterau ffisegol, diwylliannol a chyfleusterau, tebyg i seilwaith cymunedol a gofod gwyrdd lleol a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.
  • Adeiladu cymdogaethau cydnerth, diogel ac iach, drwy fuddsoddi mewn lleoedd ansawdd uchel y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, drwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau blaengar o atal troseddu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd partïon trydydd sector i wneud cais am gyllid i gefnogi’r Cyngor wrth gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol-dydd 14 Awst 2023.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Mae ceisiadau am y cyllid hwn bellach AR GAU.