Cloc Tref Tredegar

Lleoliad 

Adeiladwyd yn 1858, mae twr haearn y cloc yn symbol i’n hatgoffa bod presenoldeb a thwf y dref oherwydd y cynhyrchiant o haearn. Enw’r safle a ddewiswyd ar y pryd oedd Sgwâr y Farchnad, bellach ‘Y Cylch’, ac mae’r cloc wedi bod yn dirnod y mae trigolion lleol yn falch ohono. 

 

Codi Arian

Rheolwr Gweithfeydd Haearn Tredegar a oedd yn ehangu’n gyflym iawn yn 1857 oedd Mr R. P. Davis a oedd yn byd yn Nhŷ Bedwellty, ac fe gymerodd ei wraig ddiddordeb brwd mewn materion yn ymwneud â’r dref. Ei syniad hi oedd cael Cloc yn y Dref yn wreiddiol ac fe addawodd ei gwr roddi £400 pe byddai’n ceisio codi arian yn y dref. Sefydlwyd bwyllgor a gwnaethpwyd baratoadau i gynnal marchnad. Yn anffodus, bu Mrs Davis farw cyn cynnal y farchnad, ond gyda’r arian a godwyd, ynghyd â rhodd ychwanegol gan Mr Davis, cyrhaeddwyd y targed angenrheidiol o £1,000.

 

Adeiladu 

James Watson oedd y peiriannwr a oedd yn gyfrifol am y dyluniad cyffredinol ac fe oruchwyliodd y gwaith o godi’r brif strwythur. Cafodd ei fwrw mewn haearn yng ngweithfeydd Charles Jordan, Toddwr Haearn o Gasnewydd. Benthyciwyd gadwyni a derics gan Gwmni Tredegar i godi’r strwythur trwm ac anfonwyd dwsinau o ddynion o’r gweithfeydd haearn i helpu gyda’r gwaith trafferthus, a gymerodd un deg chwech wythnos. Dechreuodd y gwaith ar y sylfeini yn hydref 1858, ond ni chwblhawyd y twr a’r clod gyda’i gilydd tan fis Mehefin y flwyddyn ganlynol.

Dyliniad 

Mae twr y cloc 72 troedfedd ac mae’r piler wedi’i wneud yn gyfan gwbl o haearn bwrw. Mae arysgrif ar bob un o bedwar wyneb y plinth.  Mae un yn darllen

'Cyflwynwyd i dref Tredegar o elw marchnad a hyrwyddwyd gan y diweddar Mrs R. P. Davis'. 

Gyferbyn mae enw a disgrifiad y Toddwr Haearn a’i arwyddair, tra bod gan y wynebau eraill Arfbais Frenhinol Lloegr a delw Wellington, arwr Lloegr.  Dyluniwyd y clod gan Mr J. B. Joyce o Swydd Amwythig ac yn wreiddiol roedd y pedwar deial tryloyw wedi’u goleuo gan nwy.

Dathliadau 

Dros y blynyddoedd mae Cloc y Dref wedi bod yn lle cyfarfod ar gyfer dathliadau’r dref, gan gynnwys diwedd yr Ail Ryfel Byd, ar Nos Galan, ac ar ei ben-blwydd ble mae trigolion yn casglu i ganu pen-blwydd hapus i’r cloc. Gwahoddir ymwelwyr i ddringo’r cloc bob blwyddyn fel rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop.  

Yn ystod ei hanes hir, mae’r cloc wedi gwylio’r amser gyda chywirdeb rhyfeddol a gellir dweud ei fod yn esiampl wych o fwrw haearn ac yn gofeb i ddiwydiant y dref a’i phobl. 

http://www.tredegartowncouncil.co.uk/your-town/the-town-clock/

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk