Dug Caeredin

Mae rhaglen Dug Caeredin yn antur go iawn o’r dechrau i’r diwedd ac mae’n agored i unrhyw bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed a hoffai roi cynnig ar ychydig o antur a mynd allan i’r gymuned!

Gall eich rhaglen fod yn llawn gweithgareddau a phrosiectau sydd o ddiddordeb i chi ac, ar hyd y ffordd, byddwch yn ennill profiadau, ffrindiau a galluoedd a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes.

Fel cyfranogwr yn rhaglen Dug Caeredin, nid yn unig y cewch gyfle i roi cynnig ar brofiadau newydd mewn amgylchedd hwyliog ac anghystadleuol, ond byddwch hefyd yn:   

  • Ennill Gwobr Dug Caeredin a fydd yn rhoi sgiliau, hyder ac agwedd at fywyd i chi y mae pawb yn chwilio amdanynt, o gyflogwyr i golegau a phrifysgolion.
  • Cael cydnabyddiaeth am wneud pethau rydych am eu gwneud.
  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill a’ch cymuned.
  • Herio eich hun a darganfod talentau nad oeddech chi erioed wedi eu hadnabod.
  • Dod yn fwy heini ac iach a chreu atgofion a fydd yn para am oes. 

Rhowch gynnig ar antur a gwnewch eich Gwobr Dug Caeredin! 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Catherine Parker, Duke of Edinburgh’s Award Development Officer

Rhif Ffôn: 01495 355674 / 07817 246920

Cyfeiriad e-bost: catherine.parker@blaenau-gwent.gov.uk