Fforwm Derbyniadau

Mae’r Cyngor wedi sefydlu Fforwm Derbyniadau i ymgynghori a thrafod materion derbyn. Mae’r fforwm yn ein caniatáu i ystyried sut mae trefniadau lleol yn gallu bodloni anghenion rhieni orau a sut mae trefniadau o’r fath yn cyd-fynd gyda materion eraill megis cynllunio lleoedd ysgol a gwneud darpariaeth ar gyfer plant gydag anghenion arbennig neu ymddygiad anodd. Mae’r fforwm yn cynnwys:-

  • Swyddogion y Cyngor; 
  • Rhiant-lywodraethwyr a chynrychiolwyr o’r gymuned leol; 
  • Yr Esgobaeth a’r Eglwys Gatholig gydag ysgolion yn yr ardal; 
  • Penaethiaid Ysgolion Sylfaen ac ysgolion Cymunedol a Gwirfoddol o reolir; 
  • Penaethiaid Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

Mae’r fforwm yn allweddol o ran datblygu deialog hysbys a hyderus rhwng y Cyngor ac ysgolion ar faterion cyllidebol, gan gynnwys lefelau cyllid ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddid, pwysau ar gyllidebau’r dyfodol, newidiadau i’r fformiwla cyllido leol ac adolygu cytundebau / cytundebau lefel gwasanaeth i ysgolion.

Mae fforymau wedi cael eu sefydlu i gynrychioli barn ysgolion a chyrff eraill â diddordeb yng nghyllideb ysgolion yr awdurdod a materion eraill yn ymwneud â chyllideb ysgolion. Mae’r fforwm yn gorff sy’n ymgynghori ac yn cynghori, nid yn un sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’r Fforwm Ysgolion yn cynnwys o leiaf 15 aelod a apwyntiwyd gan y Cyngor, a rhaid i ddim mwy na chwarter ohonynt fod yn aelodau nad sy’n ymwneud ag ysgolion. Rhaid i aelodau sy’n ymwneud ag ysgolion gynnwys nifer gymesur o gynrychiolwyr o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a rhaid i o leiaf un fod yn gynrychiolydd o ysgol arbennig. Rhaid i o leiaf un aelod sy’n ymwneud ag ysgolion fod yn rhiant-lywodraethwr.

Dogfennau Cysylltiedig

 

Derbyniadau i Ysgolion

Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN