Daw cylch derbyn ysgolion Uwchradd am y flwyddyn academaidd meithrin yn dechrau 27 Medi 2022 i ben ar 1 Mawrth 2023. Dim ond ceisiadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gyda thystiolaeth berthnasol i gefnogi ar gyfer derbyn ffurflenni cais, gaiff eu hystyried yn y cylch cyntaf o ddyraniadau disgyblion. Gall ffurflenni a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad hwn neu ffurflenni anghyflawn olygu na chaiff plentyn gynnig lle yn eu dewis o ysgol uwchradd.
Caiff dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu dangos yma: Dyddiadau Derbyn Ysgolion a Meithrinfeydd 2023
Mae plant yn trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed (h.y. os yw'r plentyn yn 11 oed rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2023 byddai ganddynt hawl i le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2023).
Cofrestrwch a llenwi'r ffurflen ddilynol ar gyfer derbyniadau uwchradd os gwelwch yn dda.
Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer disgyblion, mae'n rhaid gwneud cais i fynychu Ysgol Uwchradd ar yr adeg priodol.
Mae'n gyfrifoldeb arnoch yn ôl y gyfraith i sicrhau fod eich plentyn yn derbyn addysg lawn-amser briodol.
Os ydych yn dal yn ansicr pa ysgol i'w dewis ar gyfer ein plentyn, darllenwch ein Llyfryn Cychwyn Ysgol ar gyfer 2022/23.
I gael mwy o wybodaeth ar y Broses Derbyn i Ysgolion, darllenwch Bolisi Derbyniadau Ysgol Blaenau Gwent ar gyfer Meithin ac Addysg Statudol 2023/24.
I gael mwy o wybodaeth ar y broses dderbyn neu i wneud cais am gopi o'r llyfryn Dechrau yn yr Ysgol, cysylltwch â'r Swyddog Derbyn ar: 01495 355493 neu ebost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Enw'r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg, Derbyn i Ysgolion
Rhif Ffôn: (01495) 355493/ (01495) 355340
Gofynnir i chi nodi y bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 canol-dydd bob dydd. Os oes angen i chi siarad gyda rhywun tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at gyfeiriad e-bost derbyn ysgolion isod i ofyn i ni eich ffonio’n ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Abertyleri, NP13 1DB
Cyfeiriad E-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk