Derbyniadau Dosbarth Derbyn

Rownd Derbyn 2023-24

Mae'r cylch derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd y Derbyn yn dechrau ar 8 Ionawr 2024 ac yn cau am 5pm ar 26 Chwefror 2024. Cliciwch yma i gwblhau Ffurflen Gais Derbyn 2024. 

Gellir gweld y dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma:Dyddiadau Derbyn Ysgolion a Meithrinfeydd 2023

Mae plant yn gymwys i gael eu derbyn i'r Dosbarth Derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn 5 oed yn cwympo ynddi. Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i blant fynychu'r ysgol tan ddechrau'r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn 5 oed.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth gefnogol berthnasol, bydd yn cael eu hystyried yn y rownd gyntaf o dderbyn disgyblion mewn ysgolion. Gall derbyn ffurflenni ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn yr ysgol gynradd o’u dewis 

Os yw plentyn yn mynychu’r adran feithrin ar hyn o bryd yn newis ysgol eu rhiant, bydd angen cyflwyno ffurflen gais oherwydd ni fydd mynychu’r adran feithrin yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael ei derbyn i’r ysgol honno.

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r awdurdod derbyn (Cyngor Blaenau Gwent) yn gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Wedyn dynodir lle i’r disgyblion hyn naill ai yng Nghampws Blaenau neu Dredegar gan dîm Arweinyddiaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Bydd Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn agor darpariaeth egin yn Nhredegar o fis Medi 2023 ar gyfer disgyblion Meithrin a Derbyn.

Mae gennych gyfrifoldeb, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg amser llawn briodol.

Os ydych dal yn ansicr pa ysgol i ddewis i’ch plentyn, edrychwch ar ein Llyfryn Cychwyn Ysgol. I ofyn am gopi, cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau fel a ganlyn: 01495 355493 schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ar y Broses Derbyniadau Ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyniadau Ysgol Blaenau Gwent ar gyfer Meithin ac Addysg Statudol 2024/25.

Diet Arbennig

I wneud cais am ddiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a Dietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai yn derbyn bwydlen diet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Gofynnir i chi ganiatáu hyd at 3 wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

I warchod iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu cinio pecyn o gartref ar gyfer eich plentyn nes byddwch wedi cael cadarnhad o ddyddiad dechrau.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Ddisgyblion Ysgolion Cynradd

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i bwysau cynnydd costau byw ar deuluoedd a’r uchelgais a rannwn o drechu tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn newynog yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i weithredu’r cynllun cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae hefyd fuddion ehangach o brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adegau pryd bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu dosbarth meithrin, dosbarth Derbyn, blynyddoedd 1 a 2 ar ddechrau tymor yr hydref 2022. Caiff y cynnig ei ymestyn i Flynyddoedd 3 i 6 ym mis Medi 2023.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen yw i’ch plentyn ddweud os yw angen cinio ysgol mewn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefgarwch bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y Ffurflen Gais Diet Arbennig.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg, Derbyniadau Ysgolion

Rhif Ffôn: (01495) 355493/ (01495) 355340

Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Anvil, Abertyleri, NP13 1DB

Cyfeiriad e-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk