Derbyniadau Dosbarth Derbyn


Dyddiadau Derbyn 2026

Gellir gweld dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma: Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2026

Bydd ceisiadau ar-lein yn mynd yn fyw ddydd Gwener, 19eg o Fedi 2025 (9am)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, 31ain o Hydref 2025 (5pm)
Dyddiad penderfynu – Dydd Llun, 2il o Fawrth 2026*

Mae plant yn gymwys i gael eu derbyn i’r dosbarth derbyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn 5 oed ynddi (os bydd eich plentyn yn troi’n 5 yn y flwyddyn 2025/26). Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i blant fynychu’r ysgol tan ddechrau’r tymor ysgol yn dilyn eu pumed pen-blwydd.

Dim ond ceisiadau a ddaw i law erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth ategol berthnasol, fydd yn cael eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyrannu disgyblion i ysgolion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn ei ddewis ysgol gynradd.

Os yw plentyn yn mynychu lleoliad meithrin yr ysgol o ddewis ei rieni ar hyn o bryd, bydd angen cyflwyno ffurflen gais gan na fydd presenoldeb yn y lleoliad meithrin yn gwarantu y caiff ei dderbyn i ddosbarth derbyn yr ysgol honno.

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, yr awdurdod derbyn (Cyngor Blaenau Gwent) sy’n gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Bydd y disgyblion hyn wedyn yn cael lle ar gampws Blaenau neu Dredegar gan dîm arweinyddiaeth a chorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg bellach wedi agor ei hegin-ddarpariaeth, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn ei lleoliad dros dro yn Nhŷ Bedwellte, Stryd Morgan, Tredegar, ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25, bydd Ysgol Gymraeg Tredegar yn cael ei lleoli yn ei hadeilad ysgol newydd ar Ffordd y Siartwyr, Sirhywi, Tredegar.

Mae gennych gyfrifoldeb, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg amser llawn priodol.

I ofyn am gopi, cysylltwch â’r Swyddog Derbyn drwy e-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2026/27.

Deietau Arbennig

I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd

Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.

 

Dogfennau Cysylltiedig

Manylion Cyswllt

Derbyniadau i Ysgolion

Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN