Cwynion Ysgol

Mae Deddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, yn sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio gyda chwynion gan rieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ac aelodau'r gymuned leol. 

Mae gan bob ysgol unigol ei gweithdrefn cwynion ei hun a gellir cael manylion llawn am weithdrefnau cwynion yr ysgol yn uniongyrchol o bob un o ysgolion Blaenau Gwent sydd â'u manylion yma. Dylid gwneud cwynion heb fod yn gysylltiedig ag ysgol i'r Cyfarwyddwr Addysg. Mae mwy o gyngor ac arweiniad ar weithdrefnau'r Cyngor ar gael drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Addysg drwy'r cyfeiriad e-bost dilyinol: education.department@blaenau-gwent.gov.uk.  Hefyd, drwy dudalen cwynion y Cyngor.

Cwynion Ysgol

1. Y Corff Llywodraethu sy'n gyfrifol am ddelio gyda chwynion am ysgol. Gall y Cyngor roi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i ddisgyblion, rhieni, penaethiaid ysgol a llywodraethwyr am weithdrefnau a phrosesau'n gysylltiedig â datrys cwynion. 

2. Rhoddir crynodeb o'r drefn gwynion (a fabwysiadwyd gan Gyrff Llywodraethu ysgolion cymunedol a chymorth gwirfoddol) islaw: 

(a) dylid atgyfeirio cwynion at bennaeth yr ysgol yn y lle cyntaf (os nad ydynt o natur ddifrifol iawn, neu'n ymwneud â phennaeth yr ysgol, ac os felly dylid ei atgyfeirio at Gadeirydd y Corff Llywodraethu); 

(b) os na all Pennaeth yr Ysgol ddatrys y gwyn, dylid ei hatgyfeirio at Gadeirydd y Corff Llywodraethu os nad oes ganddo ef/hi ymgyfraniad blaenorol; 

(c) os na all y Cadeirydd ddatrys y gŵyn, dylid ei chyfeirio at is-bwyllgor priodol y Corff Llywodraethu; 

(d) os gall y Cyfarwyddwr Corfforaehtol Addysg roi cyngor ac arweiniad ar unrhyw gam.

(e) rhaid nodi y gall weithiau fod gweithdrefnau arbennig ar gyfer cwynion yn dibynnu ar natur y gŵyn e.e. yn achos gwahardd disgyblion a'r cwricwlwm; a 

(f) dim ond y cyfeirir y mater atynt gan y Corff Llywodraethu yn dilyn yr ymchwiliad dechreuol y gall y Cyngor (heblaw'r Cyfarwyddwr Addysg) gymryd rhan yn uniongyrchol. 

CWRICWLWM AM AGWEDDAU O'R CWRICWLWM MEWN YSGOLION

1. Byddai cwynion am ddarpariaeth cwricwlwm yn cynnwys pob agwedd o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, cyrsiau'n arwain at gymwysterau allanol, addysg grefyddol ac addoli, gweithredu polisïau codi tâl yng nghyswllt y cwricwlwm a chydymffurfiaeth gyda rheoliadau yng nghyswllt darpariaeth gwybodaeth a chwricwlwm.

2. Nid yw'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys cwynion am weithredoedd athrawon neu benaethiaid ysgol unigol.

Crynodeb o'r Gweithdrefnau

Dylid trafod pob cwyn am y cwricwlwm yn anffurfiol gyda phennaeth yr ysgol i ddechrau. Mae'n rhaid i bennaeth yr ysgol hysbysu'r achwynydd os nad ydynt yn fodlon gyda phenderfyniad pennaeth yr ysgol; gallant atgyfeirio'r gŵyn, yn anffurfol yn y lle cyntaf, ond mewn ysgrifen at Adran y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. 

Caiff y gŵyn ei hystyried a thrafod gyda'r Cynghorydd Cyswllt perthnasol, pennaeth yr ysgol a'r achwynydd. Hysbysir yr achwynydd am ganlyniad ac unrhyw gam gweithredu a gynigir. Hysbysir yr achwynydd hefyd y gallant wneud cwyn ffurfiol i'r Corff Llywodraethu yn y lle cyntaf. Pan fydd y Corff Llywodraethu yn cwrdd i ystyried y gŵyn, gall yr achwynydd roi sylwadau mewn person (gall rhywun fynd gyda chi os dymunwch). 

Dylai pob Corff Llywodraethu fod â threfniadau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer delio gyda chwynion o'r fath cyn y derbynnir unrhyw gwynion. Pan dderbynnir cais am y cwricwlwm, dylai'r Corff Llywodraethu fodloni ei hun y cafodd y gŵyn ei hymchwilio'n llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Bydd y Corff Llywodraethu yn hysbysu'r achwynydd mewn ysgrifen am eu penderfyniad ac yn olaf, unrhyw gam gweithredu a gymerwyd neu a gynigiwyd. 

Os nad yw'r achwynydd yn fodlon gyda phenderfyniad y Corff Llywodraethu, gall gyfeirio'r gŵyn at y Cyngor drwy ysgrifennu at Gyfarwyddydd Corfforaethol Addysg:

Cyfarwyddiaeth Addysg,
Llawr 8,
Llys Einion,
Stryd yr Eglwys,
Abertyleri, NP13 1DB

Os yw'r gŵyn yn ymwneud ag addysg grefyddol neu faes llafur a gytunwyd ar gyfer addysg grefyddol, bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yn galw cyfarfod o'r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SAC) i weithredu ar ran y Cyngor wrth ystyried y gŵyn.

Mewn ysgolion cymorth gwirfoddol yr awdurdod perthnasol fydd yr awdurdod eglwys annibynnol. Caiff cwynion eraill eu hystyried gan yr Isbwyllgor Addysg. Dylid gwahodd yr achwynydd (gyda rhywun arall yn mynd gydag ef os dymunir), Corff Llywodraethu yr ysgol a'r Cynghorydd Cyswllt i'r cyfarfod i wneud sylwadau.

Dylid anfon adroddiad ysgrifenedig at yr achwynydd yn dilyn y cyfarfod, gan roi manylion y penderfyniad a gymerwyd ac unrhyw gam gweithredu a gynigiwyd. Dylid hysbysu'r achwynydd os nad yw'n fodlon gyda'r penderfyniad, gellir trosglwyddo'r gŵyn i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru.

Bydd y Cyngor ac ysoglion unigol yn cadw cofnod o gwynion ffurfiol.

CWYNION AM YSGOLION

BWLIO AC AFLONYDDU HILIOL - CRYNODEB

1.  Y Corff Llywodraethu sy'n gyfrifol am ddelio gyda chwynion sy'n cynnwys aflonyddu neu fwlio disgyblion. 

2. Mae'r gweithdrefnau ar gyfer delio gyda chwynion o'r fath yr un rhai ag ar gyfer cwynon cyffredinol, heblaw:

(a) lle'n briodol dylid hysbysu'r Heddlu, a

(b) bydd y Cyngor yn monitro pob cwyn sy'n awgrymu y bu digwyddiad hiliol. 

3. Digwyddiad hiliol yw un lle mae'r dioddefwr neu unrhyw un arall yn ystyried bod y weithred yn un hiliol. 

4. Gall bwlio ac aflonyddu hiliol fod mewn gwahanol ddulliau ac mae'n cynnwys galw enwau, sarhau, graffiti, iaith dramgwyddus neu hiliol neu lenyddiaeth, yn ogystal ag ymosodiad corfforol a bygythiad ymosodiad corfforaethol. 

5. Dylai ysgolion gofnodi pob digwyddiad a'r camau gweithredu a gymerwyd a rhoi adroddiad ar unwaith am ddigwyddiadau difrifiol i'r Cyfarwyddwr Corfforaehtol Addysg. 

5. Dylai ysgolion gofnodi pob digwyddiad a'r camau gweithredu a gymerwyd a hysbysu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ar unwaith am ddigwyddiadau difrifol. Bydd y Cyngor yn monitro amlder a natur digwyddiadau hiliol a pha mor effeithlon fu'r camau gweithredu a gymerwyd. 

6. Dylai ysgolion fod â pholisïau ac arferion clir sy'n hyrwyddo cytgord ac sy'n rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr.

Gwybodaeth Gyswllt

Address: Education Directorate, Floor 8, Anvil Court, Church Street,  Abertillery. NP13 1DB
Email Address: education.department@blaenau-gwent.gov.uk