Meddwl eich bod yn gwybod am Brydau Ysgol?
Ni fu prydau ysgol yng Nghymru erioed mor faethlon ac amrywiol. Yma ym Mlaenau Gwent rydym yn bwydo miloedd o ddisgyblion cynradd ac uwchradd bob dydd, yn ogystal â staff ac ymwelwyr.
Yn unol â safonau Llywodraeth Cymru mae gennym lai o fraster, siwgr a halen yn ein rysetiau, a mwy o ffibr a ffrwythau a llysiau, ymysg llawer o welliannau eraill. Mae maeth yn bwysig i ni a gellir ymddiried yn ein prydau ysgol i gyfrannu’n sylweddol ar ddiet iach pobl ifanc.
Ond dim ond hanner y frwydr fu gwneud y bwyd a ddarparwn mewn ysgolion yn iachach. Mae’n rhaid i bobl ifanc fod eisiau eu bwyta a sicrhawyd hyn gyda gwaith caled a brwdfrydedd timau arlwyo yr holl ysgolion ar draws Blaenau Gwent ac, wrth gwrs, fewnbwn gwerthfawr ein disgyblion.
Tystysgrif Cydymffurfio- Rheoliadau Bwyta’n
Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) Cymru 2013.
Yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hysgolion:
• Ffrwythau bob dydd
• Llysiau a/neu salad bob dydd
• Pwdin seiliedig ar ffrwythau o leiaf ddwywaith yr wythnos
• Pysgod bob wythnos
• Pysgod seimllyd o leiaf unwaith mewn 3 wythnos
• Toriadau cig o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein hysgolion cynradd a dair gwaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd
• Dim halen ychwanegol
• Dim bwydydd melys, tebyg i fariau siocled, bariau grawnfwyd a melysion na chreision
• Cyfyngu cynnyrch tatws a thatws wedi’u coginio mewn saim neu olew (dim mwy na dwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu bwyd wedi ei ffrio’n ddwfn neu ei fflach ffrio (dim mwy na ddwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu cynnyrch cig wedi’i brosesu
• Siopau ffrwythau yn ein holl ysgolion cynradd
• Llaeth am ddim ar gyfer pob disgybl meithrin a phlant bach
• Brecwast iach am ddim ym mwyafrif ein hysgolion cynradd
• Hyrwyddo llaeth a dŵr fel fod y gorau ar gyfer iechyd dannedd
Heblaw am faeth, mae ysgolion bach yn cynnig llawer o fuddion eraill:
• Cyfleuster – arbed amser yn y bore drwy beidio gorfod paratoi cinio pecyn, a dim pryderon am gadw bwyd yn ffres a diogel tan amser cinio
• Y cyfle i roi cynnig ar fwydydd newydd
• Porthi gallu canolbwyntio plant a’u gallu i gyflawni’n dda yn yr ysgol
• Hyrwyddo sgiliau cymdeithasol plant, moesgarwch wrth y bwrdd a’u gallu i wneud dewisiadau bwyd gwybodus mewn amgylchedd diogel, dan arolygiaeth gyda chyfeilion
• Mwynhau bwydlenni thema hwyl megis pryd arbennig Dydd Gŵyl Dewi
• Gwerth gwych am arian
Prydau Ysgol neu Giniawau Pecyn
Amser ailfeddwl am giniawau pecyn?
Ni roddodd ymchwil gan Brifysgol Leeds ddarlun cadarnhaol o gynnwys maeth ciniawau becyn o gymharu â phrydau ysgol, gyda llai na 2% o giniawau pecyn yn cyrraedd safonau prydau ysgol, gyda lefelau yn gostwng o ran Fitamin C, Fitamin A a sinc dros y blynyddoedd.
O gymharu, caiff bwydlenni ysgolion cynradd eu dadansoddi o ran maeth gan ddietegydd ein timau i sicrhau fod bwydlenni’n cynnig 1/3 o ofynion dyddiol disgyblion ar gyfer ynni, braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, ffibr, protein, haearn, sinc, calsiwm, Fitamin A, Fitamin C, ffolad, sodiwm.
Amser ailystyried?
Y prisiau cyfredol ar gyfer prydau ysgol ym Mlaenau Gwent yw (bob dydd):
Cynradd - £2.40
Uwchradd - £2.65
Mae bwydlenni ein holl ysgolion ar gael
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Prydau Ysgol
Ffôn: 01495 311556
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Y fwydlen un dewis twym a bar salad ar gyfer yr Ysgolion Catholig a restrir isod. Bydd y bwydlenni hyn yn dechrau ar 7 Tachwedd.
All Saints RC
St Joseph's RC
By fwydlen dau ddewis twym a bar salad ar gyfer yr ysgolian isod. Bydd y bwydlenni hyn yn dechrau ar 7 Tachwedd.
Beaufort Hill
Blaen-Y-Cwm
Cwm
Deighton
Ebbw Fawr Primary
Georgetown
Glanhowy
Rhos Y Fedwen
Roseheyworth Campus
Six Bells Campus
Tillery Street Campus
Soffryd
St Illtyds
Willowtown
Ysgol Gymraeg Bro Helyg
Y fwydlen dau ddewis twym a bar salad ar gyfer yr ysgolion isod. Bydd y bwydlenni hyn yn dechrau ar 7 Tachwedd.
Brynbach
Coed Y Garn
Glyncoed
St Mary’s
Ystruth
Pen Y Cwm
Y fwydlen dau ddewis twym ar gyfer yr Ysgolion Catholig a restrir isod. Bydd y bwydlenni hyn yn dechrau ar 7 Tachwedd.
St Marys RC