Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgol am Ddim i Bawb

Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o’r Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.

Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i’ch plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol.

Cyfnod Allweddol 2- Cyfnod Allweddol 4:

Efallai y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Cymorth yn gysylltiedig ag incwm
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Ategiad Credyd Treth Gwaith – talwyd am 4 wythnos ar ôl i chi beidio cymhwyso am Gredyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol gydag incwm aelwyd net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)      

Nid oes gan deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith hawl i brydau ysgol am ddim 

Gallwch ddarllen mwy am brydau ysgol am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod â hawl i gael cinio ysgol am ddim i'ch plentyn, cwblhewch ffurflen gais ar-lein isod. Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gadael i’r ysgol wybod pan mae eich plentyn yn gymwys am brydau ysgol am ddim.


Gwybodaeth Cyswllt

Enw’r Tîm: Budd-daliadau

E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu ffôn 01495 311556