Manteision Bod yn Ddwyieithog

Dangosodd ymchwil seiliedig ar dystiolaeth fod llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog, a chaiff rhai ohonynt eu nodi isod.

Addysg

  • Cyflawni’n uwch yn y cwricwlwm a gwneud yn well mewn arholiadau
  • Mae dysgu ail iaith yn ifanc yn helpu plant i ddatblygu clust am ieithoedd wrth iddynt fynd yn hŷn
  • Mae plant mewn addysg Gymraeg yn gwneud lawn cystal, os nad yn well, mewn Saesneg â phlant mewn addysg cyfrwng Saesneg
  • Gall wella grym yr ymennydd, gan gadw ymennydd yn iach a miniog. Gall wella gallu amldasgio eich plentyn, gan wella sgiliau datrys problem a rheoli sylw a chreadigrwydd.

Gyrfa:

  • Gwella cystadleurwydd yn y farchnad swyddi
  • Sgil ychwanegol i roi ar eich ffurflen gais

Mae pobl ddwyieithog yn ennill cyflog 11% yn uwch ar gyfartaledd

Bywyd/Diwylliant:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill
  • Gall magu plant yn ddwyieithog eu helpu i gydnabod eu diwylliant a’u treftadaeth yn ogystal â datblygu hunaniaeth bersonol gryf.

Gwella bywyd cymdeithasol, mae siarad ail iaith yn agor maes newydd cyfan o gyfleoedd cymdeithasol a gall wella sgiliau a hyder cymdeithasol.

Iechyd:

  • Dangosodd astudiaethau diweddar fod ymennydd pobl dwyieithog yn heneiddio’n arafach ac felly eu bod yn byw bywydau hirach a mwy bodlon.

Dogfennau Cysylltiedig

paper_3_-_prof._colin_baker-English.pdf (senedd.wales)

Manteision Dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg (senedd.cymru)

16-048-english-web.pdf (ioe.ac.uk)