Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

 

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd am ddim, o ansawdd da, cyfrinachol a diduedd ar yr amrediad llawn o wasanaethau sydd ar gael i Blant a Phobl Ifanc ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent.    

Rydym yn cynnig cyngor ar ddewis gofal plant, clybiau plant, grwpiau babanod, gweithgareddau hamdden a chwaraeon, materion iechyd, cefnogaeth i rieni a llawer mwy.   

Galwn hefyd ddarparu cyngor diduedd ar hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn gofal plant, sefydlu eich hun fel darparwr gofal plant a sut i gael gafael ar grantiau.  

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent yn seiliedig yng Nghanolfan Plant Integredig y Cymoedd Canol, Hen Ysgol Feithrin Blaina, High Street Blaina Blaenau Gwent NP13 3BN    

Rydym ar gael o ddydd Llun – ddydd Iau 9.00a.m. - 5.00p.m  a dydd Gwener 9.00 a.m. – 4.00 p.m.  

Mae cyfleuster peiriant ateb ar gael ar gyfer gwasanaeth allan o oriau, os gadewch eich enw a rhif ffôn, fe fydd rhywun yn eich ffonio yn ôl.   

Chwilio am Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Rhif Ffôn: 08000 32 33 39 

Cyfeiriad:  Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol
High Street
Blaina
Blaenau Gwent  NP13 3BN 

Cyfeiriad e-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk