Talu eich Treth Gyngor

Mae gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ymrwymiad i wneud gwasanaethau yn rhwyddach eu defnyddio ac yn fwy hygyrch.

Fel rhan o'n rhaglen datblygu barhaus cynigiwn ddewis o ddulliau i dalu'r Dreth Gyngor yn uniongyrchol, ac yn ddiogel, i'r Cyngor.

Sut i wneud taliad

  • Debyd Uniongyrchol
  • Taliadau Ar-lein
  • Cardiau talu
  • Talu dros y ffôn

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd fwyaf diogel a chyfleus i dalu yw drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydych yn arbed amser ac nid oes unrhyw sieciau i'w hysgrifennu, dim arian i'w dalu, dim llythyrau i'w postio neu aros wrth gownter er mwyn talu.

Taliadau Ar-lein

Mae'r cyfleuster talu ar-lein yn eich galluogi i dalu eich Treth Gyngor yn uniongyrchol, ac yn ddiogel, i'r Cyngor.

Caiff eich holl fanylion personol a manylion eich cerdyn eu diogelu yn defnyddio amgodiad 128 bit, pan y'u trosglwyddir dros y Rhyngrwyd.

Caiff manylion eich cerdyn eu cadw ar serfiwr tu ôl i fur tân ddiogel. Dim ond personél gydag awdurdod all gael mynediad i'r wybodaeth yma.

Cardiau Talu

Gellir defnyddio'r cardiau mewn unrhyw Swyddfa'r Post neu unrhyw siop sy'n safle Paypoint. Cysyllwch â'r Adran Treth Gyngor os gwelwch yn dda.

Ffôn - (01495) 355212

Post - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Y Swyddfeydd Cyffredinol  Heol Gwaith Dur Glynebwy NP23 6DN

E-bost: Ctax@blaenau-gwent.gov.uk

Talu dros y Ffôn

Gallwch wneud taliadau i Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn defnyddio'r opsiwn digidol talu dros y ffôn.

Drwy ffonio 0845 6042635, a defnyddio'r cyfarwyddiadau syml, gellir gwneud taliadau yn defnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd drwy bwyso'r rhifau priodol. (Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn).

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Adran y Treth Gyngor
Ffôn - (01495) 355212

E-bost : CTax@blaenau-gwent.gov.uk