Beth yw tipio anghyfreithlon?
Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff yn anghyfreithlon ar dir cyhoeddus neu breifat.
Os yw rhywun yn tipio’n anghyfreithlon gallant gael dirwy hyd at £50,000, record droseddol neu, mewn achosion difrifol, ddedfryd carchar.
Gallwch roi gwybod i ni os ydych yn gweld sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon neu ei adael ar dir cyhoeddus neu preifat.
O ble ydyn ni’n casglu tipio anghyfreithlon?
Rydyn ni’n casglu sbwriel a gafodd ei adael a thipio anghyfreithlon o holl dir y Cyngor yn cynnwys:
- Lonydd cefn
- Ffyrdd
- Palmentydd
- Parciau
Nid ydym yn casglu sbwriel a thipio anghyfreithlon o dir preifat.
Tipio anghyfreithlon ar dir preifat
Perchennog y tir sy’n gyfrifol am symud y gwastraff os cafodd sbwriel ei dipio’n anghyfreithlon ar dir preifat.
Efallai y gallwn roi help gyda symud y sbwriel os yw perchennog y tir yn gofyn am help.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Anelwn symud sbwriel a gafodd ei dipio’n anghyfreithlon o fewn 4 diwrnod gwaith.
Chi sydd yn gyfrifol am eich sbwriel
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio fod unrhyw un y talwch iddynt symud eich sbwriel wedi cofrestru fel cludwr gwastraff.
Dylech:
- Weld eu tystysgrif
- Cael derbynneb yn cadarnhau beth maent wedi mynd ag ef ac i ble
- Cael cadarnhad o unrhyw daliad a wnaed
Gallai deiliad tŷ gael ei ddirwyo os gellir olrhain unrhyw wastraff yn ôl i’r tŷ y daeth ohono.
Gallwch edrych ar-lein ar y rhestr o gludwyr gwastraff sydd wedi cofrestru drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru